WATKINS
,
THOMAS
(
17eg ganrif
;
D.W.B.
, 1153-4),
pregethwr Piwritanaidd, Bedyddiwr Neilltuol
.
Dyddiadau ei eni a'i farw yn ansicr. Daeth i'r amlwg fel
negesydd i'r cyfarfodydd cyffredinol
a drefnwyd gan
John
Miles
(
Bywg.
, 595-6)
o gwmpas
1650-56
; ymddengys ei enw ef yng nghyfarfodydd
y Fenni
ac
Aberafan
. Cynrychiolai
Watkins
eglwys y Gelli
, eglwys a'i chortynnau yn rhedeg ymhell, gan gynnwys
Olchon
, y cwm
Cymreig
diarffordd yn ne-orllewin
sir Henffordd
a gyfrifir yn aml fel cartref cyntaf y
Bedyddwyr Cymreig
. O dan bwys a dwyster
Adferiad 1660
aeth
eglwys y Gelli
yn gandryll, a chyfyngodd
Watkins
ei waith i
ddyffryn Olchon
; yn gynnar yn
Awst 1662
, galwyd ef ac 16 eraill o'r ardal i ymddangos o flaen
llys consistori
Aberhonddu
i egluro paham na ddeuent i wasanaethau eglwys y plwy’. Ond y digwyddiad mwyaf pwysig yn ei hanes oedd y daith a wnaeth, yng nghwmni
William
Prichard
o'r
Fenni
(
Bywg.
, 750)
, yn gynnar ym mis
Gorff. 1668
, i
Rydwilym
yn y gorllewin i
sefydlu eglwys newydd
yno o dan arweiniad
William
Jones
(
Bywg.
, 490b)
, gŵr a fedyddiwyd yn
Olchon
ychydig amser cyn hynny. Dywedir weithiau mai
Watkins
a fedyddiodd
William
Jones
, ond pan gofir am amlygrwydd
Prichard
fel arweinydd, a phan ddarllenir geiriau hen lyfr
eglwys Rhydwilym
, nid oes fawr ddadl nad y gŵr o'r
Fenni
a weinyddodd yr ordinhad. Pan wnaed
Cyfrifiad Sheldon
yn
1676
, nid oedd dim llai na 220 o ‘sectariaid’ ym mhlwy
Clodock
(dyna enw'r plwy’ yr oedd
cwm Olchon
ynddo), a diamau mai disgyblion
Thomas
Watkins
oedd y rhan fwyaf ohonynt; siomedig felly yw darllen mewn dogfen a gyhoeddwyd yn
1690
, nad oedd aelodau ei eglwys uwchlaw 30. Disgrifir ef yn yr un ddogfen fel hen
weinidog
blinedig, ei ynni'n pallu a'i wasanaeth ymron ar ben, ond yn derbyn llawer o gymorth gan eraill, yn enwedig
Thomas
Parry
(
Bywg.
, 697b)
,
gweinidog
Llanigon
a'r
Gelli
. Y mae'n bur debyg i
Watkins
f.
oddeutu 1695
.
Llyfryddiaeth:
-
Joshua Thomas
:
A History of the Baptist Association in
Wales
, 1795
, 5-23;
-
Hanes y Bedyddwyr yn Nghymru
,
1893–1907
, ii, 480-2;
-
Act Books, Brecon consistory court,
1662-8
;
-
Religious Developments in
WalesSalt MS. 2112 yn llyfrgell William Salt, Stafford.
Am ddisgrifiad byr o'i chynnwys, a'i diddordeb i Gymru, gw.
Thomas Richards , t. 521–2
, 394;
-
Trafodion Cymdeithas Hanes Bedyddwyr
Cymru
,
1948-9
, 24;
- Llyfr eglwys Rhydwilym (Ll.G.C.).
Awdur:
Thomas Richards, D.Litt., (1878-1962), Bangor