WATKINS
,
THOMAS EVAN
(‘
Eiddil Ifor
’, ond yn ddiweddarach ‘
Ynyr Gwent
’;
1801
-
1889
;
D.W.B.
, 1154),
eisteddfodwr
;
g.
1 Mai 1801
ym
Mhwll-yr-hyward
(yn ôl pob tebyg
Pwll-yr-hwyaid
),
Llan-ffwyst
,
sir Fynwy
. Bu ei dad, o'r un enw, yn gweithio yn
Abertyleri
, ond dychwelodd i
Lan-ffwyst
i
weithio yn y chwareli cerrig calch
a berthynai i
waith haearn Blaenafon
. Ymaelododd yn
eglwys y Bedyddwyr
yn
Llanwenarth
, a phriodwyd ef yno. Bu'r mab yn
cadw tafarn
y ‘
White Hart
’ ym
Mlaenafon
, ac yna yn gweithio fel
pwyswr
yng
ngwaith haearn Blaenau Gwent
. Dychwelodd i
Flaenafon
(
c.
1860
) i
gadw tafarn
y ‘
Three Cranes
’. Bu f. ei wraig,
Mary
(
Lewis
)
, yn y
Blaenau
yn
1859
. Yr oedd ganddynt ddwy ferch. Bu ef ei hun farw
31 Ion. 1889
. Yr oedd yn
gystadleuydd eisteddfodol
brwd, ac yn un o aelodau gwreiddiol
Cymreigyddion y Fenni
(gw. tan
Thomas
Price
,
Bywg.
, 744-5, ‘
Carnhuanawc
’
a than
Bevan
,
Thomas
(
Bywg.
, 32b)
. Enillodd lawer o wobrwyon a bathodau, a chyfrannodd i
Seren Gomer
a'r
Bedyddiwr
. Gwyddys amdano orau fel
awdur yr hanes plwyfol
,
Hanes Llanffwyst
, a enillodd y wobr yn eisteddfod gyntaf y
Cymreigyddion
yn
Y Fenni
(
Abergavenny
),
22 Tach. 1834
. Cyhoeddwyd y gwaith hwn yn
1922
tan olygyddiaeth
Syr
Joseph
Bradney
(
Bywg.
, 43)
, gyda rhagymadrodd, a ddefnyddiwyd fel ffynhonnell yr erthygl hon.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D.,
F.S.A., (1881-1969), Bangor