Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



VINCENT (TEULU; Bywg. , 947). Winchester (nid Eton ) oedd ysgol J. E. Vincent . ( D.N.B. ail atodiad).

Atodiadau a chywiriadau:

VINCENT (TEULU). O gyff Corbet o Ynys-y-maengwyn ( Tywyn , Meirionnydd ; gw. J. E. Griffith , Pedigrees , 237) yr hanoedd y teulu nodedig hwn o glerigwyr , perthnasau trwy dras neu briodas i nifer mawr o deuluoedd tiriog ac eglwysig yng Ngwynedd . Yr oedd gan y VINCENT CORBET o Ynys-y-maengwyn , a fu f. yn 1723 , fab, THOMAS VINCENT , ond am ryw reswm fe'i dietifeddodd. Ganed y Thomas hwn yn 1677 , a bu farw 1738 ; bu'n ficer Bangor ac wedyn ( 1713 ) yn rheithor Llanfachraeth , Môn ; priododd Jane Anwyl , disgynnydd o Anwyliaid y Parc [q.v.] yn Llanfrothen , a chawsant ddau fab. Graddiodd yr hynaf o'r ddau, THOMAS VINCENT ( 1717 - 1798 ), yn 1739 o Goleg Eglwys Crist , Rhydychen , penodwyd ef yn 1770 yn archddiacon Brycheiniog — yr oedd hefyd yn rheithor Yatton yng Ngwlad yr Haf . Am y mab iau, JAMES VINCENT ( 1718 - 1783 ), graddiodd yntau (o Goleg Iesu ) yn 1739 , bu'n athro Ysgol Friars ym Mangor ac yn ficer Bangor , yn rheithor Llandwrog ( Arfon ), ac wedyn ( 1763 ) yn rheithor Llanfachraeth . O'i amryw ferched, daeth un, JANE ( 1751 - 1812 ), yn wraig i'w chefnder JOHN JONES , swyddog yn y fyddin a mab i Owen Jones (o Benychen yn Abererch ), canon Bangor , o'i briod Catherine a oedd yn ferch i'r Thomas Vincent uchod. Mab i John a Jane Jones oedd JAMES JONES ( 1792 - 1876 ), a newidiodd ei enw yn 1820 i JAMES VINCENT ; g. 4 Hydref 1792 ; graddiodd o Goleg Iesu , Rhydychen , yn 1815 , ac etholwyd ef yn gymrawd yno. Bu'n gurad ym Miwmares , yn rheithor Llanfairfechan ( 1834-62 ), ac yn ddeon Bangor ( 1862-76 ); a bu f. 22 Mawrth 1876 . Ei wraig oedd Margaret Matilda Crawley o'r Gorddinog , a'u hail fab oedd JAMES VINCENT ( 1827 - 1869 ), g. 23 Ebrill 1827 , graddiodd o Goleg Iesu ( 1849 ), bu'n gurad parhaol S. Anne's , Llandygai ( 1857-9 ), ac yn ficer Llanbeblig ( Caernarfon ) o hynny hyd ei farw ar 8 Medi 1869 — canlyniad i'w hunan-aberth yn ystod ymweliad y colera â'r dref. Ei wraig oedd Grace Elizabeth , ferch William Johnson , rheithor Llanfaethlu ; a hawlia dau o'u meibion sylw yma. Adroddir hanes yr hynaf,

JAMES VINCENT ( 1857 - 1909 ), yn bur llawn yn ail atodiad y D.N.B. ; g. ef 17 Tachwedd 1857 , aeth i Eton a Choleg Eglwys Crist (gan raddio yn 1880 ), ac yna'n fargyfreithiwr ; yn 1890 penodwyd ef yn ganghellor esgobaeth Bangor . Yn ystod y dadlau ar bwnc y tir yng Nghymru , amddiffynnodd y tirfeddianwyr mewn dau lyfr, The Land Question in North Wales , 1896 (trosiad Cymraeg gan T. R. Roberts yn 1897 ), a The Land Question in South Wales , 1897 ; cyhoeddodd hefyd, 1903 , Memoirs Syr Llewellyn Turner [q.v.] . Yn Lloegr y mae'n fwy adnabyddus fel golygydd cyfnodolion ac awdur teithlyfrau . Bu f. 18 Gorffennaf 1909 . Cafodd ei frawd ieuengaf,


( Syr ) WILLIAM VINCENT ( 1866 - 1941 ), ei addysg yng Ngholeg Crist , Aberhonddu , a Choleg y Drindod yn Nulyn ; aeth yn 1887 i'r gwasanaeth gwladol yn yr India , a chafodd yrfa wir nodedig yno; bu'n aelod (ac is-lywydd) o'r cyngor deddfwriaeth yno, yn aelod o Gyngor yr India o 1923 hyd 1931 , ac yn cynrychioli'r India yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn 1926 . Urddwyd ef yn farchog yn 1913 , ac wedyn yn K.C.S.I. ac yn G.C.I.E. Wedi dychwelyd i'r wlad hon, bu'n siryf Môn yn 1931 , ac yn drysorydd Coleg y Gogledd o 1932 hyd ei farw. Yn 1937 rhoes Prifysgol Cymru iddo'r radd o LL.D. ‘er anrhydedd.’ Bu f. 17 Ebrill 1941 .

Llyfryddiaeth:

  • J. E. Griffith , Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families , 1914 , yn fwyaf neilltuol 237, 337;
  • Foster , Alumni Oxonienses ;
  • Crockford's Clerical Directory , 1858 ff ;
  • Oxford Dictionary of National Biography (ail atodiad);
  • Who's who?

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor