Dyma ach Griffith Vaughan ( 1588 ) yn ôl Dwnn : Griffith ap Richard ap Rhys ap William ap Griffith , ‘ sgweier o gorff Henry VII ’ a thrydydd mab Griffith ab Einion ap Griffith ap Llewelyn ap Cynwrig ab Osbwrn Wyddel . Ceir y disgyniadau o 1588 ymlaen mewn llyfrau a llawysgrifau achau: e.e. gan J. E. Griffith , Pedigrees , 279. Ceir yn Arch. Camb. , IV, ii, 1-16, olwg gyffredinol ar hanes y teulu gan W. W. E. Wynne , Peniarth , wedi ei seilio (gyda nodiadau gwerthfawr) ar gopi gan Angharad Llwyd [q.v.] o lawysgrif a ysgrifennwyd yn 1770 gan William Vaughan , ‘ penllywydd ’ y Cymmrodorion (isod). Fel y dengys Edward Breese ( Kalendars of Gwynedd ), bu llawer o'r Fychaniaid yn uchel siryfion ( sir Feirionnydd a sir Gaernarfon ), yn aelodau seneddol , ac yn ‘ Custodes Rotulorum .’ Daeth RICHARD VAUGHAN yn gwnstabl castell Harlech ym mis Gorffennaf 1704 ; hanner canrif yn ddiweddarach dewiswyd ei nai ef, EVAN VAUGHAN (bu f. 1791 ), i'r un swydd.
Yr oedd WILLIAM VAUGHAN (bu f. 1633 ) yn siryf sir Gaernarfon yn 1613 a 1632 ; ailadeiladodd ef Plas Hên , Llanystumdwy , 1617 , ac adeiladodd y gatws yng Nghorsygedol yn 1630 . Yr oedd yn gyfaill i Ben Jonson , y bardd , a anfonodd gopi o'i weithiau argraffedig yn rhodd iddo, a cheir llythyr oddi wrth Vaughan at James Howell [q.v.] yn Epistolae Ho-Elianae . Mab iddo ef oedd RICHARD VAUGHAN (bu f. 1636 ), yr aelod seneddol dros Feirionnydd a ddaeth mor adnabyddus yn Llundain oblegid ei fod mor eithriadol o dew. Priododd Richard Vaughan Anne , ferch ( Syr ) John Owen , Clenennau [q.v.] . Priododd WILLIAM VAUGHAN (bu f. 1669 ), ei fab yntau, Anne , ferch teulu Nannau , uniad rhwng dau deulu yr oedd eisoes gryn gyfathrach rhyngddynt. Bu f. eu mab hynaf hwy, GRIFFITH VAUGHAN , yn 1697 heb etifedd; eithr cadwyd y llinach ymlaen ym mherson ei frawd RICHARD VAUGHAN (bu f. 1734 ). Trwy ei wraig Margaret , merch Syr Evan Lloyd , Bodidris , sir Ddinbych , daeth Richard Vaughan yn dad WILLIAM VAUGHAN ( 1707 - 1775 ; isod). Daeth ei wraig ef, Catherine ferch Hugh Nanney , yn unig etifeddes Nannau maes o law. Unig blentyn William Vaughan ac Anne ( Nanney ) oedd ANN VAUGHAN , a briododd David Jones Gwynne , Taliaris , sir Gaerfyrddin . Ann oedd yr aeres olaf yn y llinell uniongyrchol; bu hithau f. 16 Mawrth 1758 , heb etifedd. Cynrychiolydd gwrywol diwethaf y teulu oedd EVAN VAUGHAN , brawd William Vaughan , ac aelod seneddol dros Feirionnydd . Pan fu ef f., ar 4 Rhagfyr 1791 , aeth Corsygedol a'r stadau a oedd yn gysylltiedig â hi yn eiddo ei nith, Margaret , gwraig Syr Roger Mostyn , barwnig .
Yn ystod y canrifoedd bu aelodau o'r teulu yn noddwyr llenyddiaeth Gymraeg a cheid croeso yng Nghorsygedol i feirdd yn clera; gw. Mostyn MS. 165 . Fel y gellid disgwyl canwyd llawer i'r teulu gan y beirdd a adnabyddir wrth yr enw ‘ Phylipiaid Ardudwy ’[q.v.] . Yr oedd eu cartrefi hwynt yn weddol agos i Gorsygedol . Canodd Siôn Phylip (bu f. 1620 ) tuag 16 o gywyddau, etc., i'r teulu; canodd Gruffydd Phylip (bu f. 1666 ) , mab Siôn Phylip a ‘ bardd teulu ’ Corsygedol , tua 19; canodd Phylip Siôn Phylip (bu f. c. 1677 ) , mab arall i Siôn Phylip , un cywydd. Y bardd a oedd yn byw agosaf at Gorsygedol ydoedd William Phylip , Hendrefechan (bu f. Chwefror 1670 ) ; bu ef yn helpu Siôn Bryncir i ysgrifennu ‘ Cywydd cyngor ’ i nai hwnnw, sef i William Vaughan . Y mae i un cywydd gan Gruffydd Phylip bennawd diddorol — ‘ I Wmffire Davies o Landyfrydog y Mon dros Rich: V n o Gorsygedol i ofyn 100 o gywydde D[afydd] ap G[wilym] .’ Gwyddys bod rhai o'r Fychaniaid yn casglu llawysgrifau a llyfrau . Pan ddaeth llawysgrifau Cymraeg Plas Mostyn ( sir y Fflint ) i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1918 yr oedd yn eu mysg o leiaf 10 (os nad 11) o gyfrolau a fuasai gynt yng Nghorsygedol , sef Mostyn MSS. 115, 130, 131, 144 (‘Llyfr Coch Nannau’), 145 (‘Llyfr Gwyn Corsygedol), 147, 160, 162, 163 (‘Y Llyfr Gwyrdd’), 164, a 165 (y llawysgrif hon yn bwysig o safbwynt hanes y teulu). Cadwyd y traddodliad llenyddol ymlaen yn gryf gan William Vaughan ( 1707 - 1775 ), aelod seneddol dros sir Feirionnydd o 1734 hyd 1768 , arglwydd-raglaw a ‘ Custos Rotulorum ’ y sir honno, a ‘ Phenllywydd ’ cyntaf Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion . Cawsai ei addysg mewn ysgolion yng Nghaer a Llundain ac yng Ngholeg S. Ioan , Caergrawnt . Pan gyhoeddodd Huw Jones (o Langwm ) ei Diddanwch Teuluaidd yn Llundain yn 1763 , i William Vaughan y cyflwynodd y gwaith. Ceir hefyd lawer o gyfeiriadau at Vaughan yn llythyrau Morysiaid Môn . Yn dilyn yn union yn y Diddanwch … ar ôl ‘ Caniad y Gog i Feirionydd ,’ cân adnabyddus Lewis Morris , ceir trosiad Saesneg o waith William Vaughan . Argraffwyd apêl Gymraeg Vaughan at etholwyr Meirionnydd yn etholiad 1747 gan Edward Breese yn ei Kalendars of Gwynedd .
Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth