Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



TOMAS ab IEUAN ap RHYS ( Bywg. , 915 Ychwaneger — bu f. 1617 .

Atodiadau a chywiriadau:

TOMAS ab IEUAN ap RHYS ( c. 1510 c. 1560 ), cwndidwr , ŵyr Rhys Brydydd [q.v.] a chefnder Lewis Morgannwg [q.v.] . Er mai Tir Iarll ydoedd cartref cysefin y teulu barddol hwn, ac er mai yn Llanharan y trigai Rhys Brydydd , eto dywedir yn Llanover MS. E4 (a ysgrifennwyd c. 1613-4 ) mai yn Llandudwg y cartrefai Tomas ab Ieuan ap Rhys . Er hynny, yr oedd cysylltiad agos rhyngddo ef ac aelodau eraill y teulu a Llangynwyd . Ychydig a wyddom am ei fywyd. Dywaid yn un o'i gwndidau iddo gael ei garcharu yn Nhre Gynffig , ac mewn un arall disgrifir ei wraig yn ei yrru i hel hadyd yn y Fro . Canai cyn cau'r mynachlogydd, canys y mae ganddo gwndid yn moli abaty Margam . Tybir weithiau ei fod yn fyw yn 1584 , ond ni chawn gerdd o'i waith y gellir profi ei chanu wedi tua 1560 . Er ei fod yn perthyn i deulu o benceirddiaid enwog, nid oedd ef yn feistr ar yr hen ddysg farddol, fel y prawf ei gywydd i'r Grog yn Llangynwyd . Yn hytrach, mynnodd ef ganu ar fesurau'r ‘glêr,’ gan ddilyn eu harddull hwy, ac felly y mae ei iaith yn llawn o'r gwallau hynny a gondemnid gan y penceirddiaid. Eto, bardd wrth ei grefft ydoedd, a defnyddiodd y mesurau hynny nid yn unig wrth ganu cerddi duwiol , ond hefyd wrth foli boneddigion ac wrth ganu marwnadau . Ceir ganddo hefyd ddaroganau , ac felly enillodd enw iddo ei hun ym Morgannwg fel proffwyd . Diau mai'r traddodiad hwn a barodd i Iolo Morganwg lunio cynifer o straeon rhyfedd amdano. Ailadroddwyd y straeon ffug hyn yn llyfrau'r ganrif ddiwethaf. Canwyd ei farwnad gan ei gyfaill, Hopcyn Tomas Phylip . Cyhoeddwyd y rhan fwyaf o'i waith yn Hen Gwndidau , 1910 .

Llyfryddiaeth:

  • Hopkin-James a T. C. Evans , Hen Gwndidau, Carolau, a Chywyddau , 1910 , 1910 , ix-liv, 1-51, 282-3;
  • G. J. Williams , Traddodiad Llenyddol Morgannwg , 1948 , 1948 , 110-43.

Awdur:

Athro-Emeritus Griffith John Williams, M.A., (1892-1963), Gwaelod-y-garth, Caerdydd