Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



THOMAS , OLIVER ( 1598 - 1653? ; D.W.B. , 1150), clerigwr Piwritanaidd ac awdur . Ceir dau ŵr cyfoes o'r enw hwn yn raddedigion o Rydychen ac yn frodorion o sir Drefaldwyn , ond ymddengys yn sicr mai'r ‘bonheddwr’ a gofrestrwyd yn Hart Hall ( coleg Hertford yn awr) yn Nhach. 1616 , yn 18 oed, ac a raddiodd yn B.A. ( 1620 ), ac M.A. ( 1628 ), yw'r gŵr sydd a wnelom ni ag ef. Daliai'r gŵr arall fywoliaethau yn sir Benfro , ond â gororau gogledd ddwyreiniol Cymru y cysylltid gwrthrych yr ysgrif hon drwy gydol ei yrfa. Ceir yr ychydig a wyddys am ei yrfa yng nghyfrolau Thomas Richards , Puritan Movement in Wales a Religious Developments in Wales . Yn 1629 yr oedd yn Wrecsam , lle y clywodd Arise Evans ef yn pregethu . Yn 1647 ceir Oliver Thomas o Groesoswallt yn cynorthwyo Rowland Nevett yn swydd Salop , ac yn cael ei gyfrif yn addas i fod ‘in Second Classis in Salop ’. Yr oedd yn un o'r cymeradwywyr tan Ddeddf Taenu'r Efengyl yng Nghymru , Chwef. 1649/50 , a rhywbryd cyn 14 Mai 1650 cafodd fywoliaeth Llanrhaeadr-ym-Mochnant . Bu yno hyd 1653 . Dywed Dr. Richards iddo farw, yn ôl pob tebyg, yn y flwyddyn honno, ond yn bendant rywbryd cyn Ebrill 1657 . Dywed Anthony Wood mai yn Felton , swydd Salop , y bu f.

Ef oedd awdur Catechism (gydag Evan Roberts , q.v. uchod , 1640 , a Drych i dri math o bobl , c . 1647 (ail argraffwyd gan Stephen Hughes ( Bywg. , 369) yn y gyfrol gyfansawdd, Tryssor i'r Cymru , 1677 ). Gellir yn hyderus briodoli iddo hefyd, Car – wr y Cymru , a gyhoeddwyd yn ddienw yn 1630 (sawl argraffiad hyd at 1766 ), catecism o ddeuddeng tudalen i blant, a'r gyfrol fwy o lawer, Car – wr y Cymru , 1631 (ail argraffwyd gan Stephen Hughes yn ei Cyfarwydd-deb i'r Anghyfarwydd , 1677 ), a argraffwyd o'r newydd gan Brifysgol Cymru yn 1930 . Priodolir y gyfrol hon iddo gan Anthony Wood ( Athenae , arg. 1691 , i, 860), ar sail tystiolaeth un o gyfoedion Thomas , sef Michael Roberts a fu f. 1679 ( Bywg. , 819) , gan Stephen Hughes yn Tryssor ( 1677 ), a chan Moses Williams ( Bywg. , 996) yn ei restr o lyfrau printiedig Cymraeg ( 1717 ). Yr oedd rhyddiaith Gymraeg Oliver Thomas yn odidog.

Llyfryddiaeth:

  • Wood , Athenae Oxonienses , 1813–20 ;
  • T. Richards , op. cit. (mynegion);
  • J. Ballinger , rhagymadrodd i arg. 1930 o Car-wr y Cymru. Yn annog ei genedl annwyl a'i gyd-wladwyr er mwyn Crist a'u heneidiau i chwilio yr Ysgrythyrau yn ol gorchymyn Crist. Adargraffiad [o'r gyfrol wreiddiol, 1631] gyda rhagymadrodd gan Syr John Ballinger, Caerdydd, 1930 , ond noder y feirniadaeth gan G. J. Williams yn Y Llenor , 1930 , 251-2;
  • Journal of the Welsh Bibliographical Society , iv, 262-5.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor