Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



THOMAS , GEORGE ( Bywg. , 889) Bu f. 30 Awst 1859 yn 73 oed, felly dylid newid ei ddyddiadau i 1786 - 1859 .

Atodiadau a chywiriadau:

THOMAS , GEORGE ( c. 1791 c. 1872 ), awdur barddoniaeth ffug-arwrol a dychanol yn ymwneuthur â sir Drefaldwyn; g. c. 1791 yn Wollerton ym mhlwyf Hodnet, swydd Amwythig, yn fab i James Thomas , prynwr a dosbarthwr gwlân, a'i wraig Margaret (Davies) a oedd wedi priodi yn Aberriw, sir Drefaldwyn, yn 1788. Symudasant i'r Drenewydd y flwyddyn ganlynol - disgrifir James yn wneuthurwr gwlanen - ac yna i Amwythig a'r Trallwng. Cafodd George beth addysg yn ysgol Park , Amwythig , bu'n cynorthwyo ei dad mewn busnes yn y Trallwng , ac wedi hynny bu'n gweithio drosto'i hunan yn y dref honno fel malwr ydau , etc. Cymerodd denantiaeth Abbot's Mill yn Nhrelydan ger Cegidfa yn 1811 lle y dywedir mai ef oedd y melinydd olaf. Bu'n glerc i deuluoedd Newton Hall a Cilgwrgan ( Abermule ), a hefyd yn glerc i'r Forden House of Industry (Montgomery and Pool House of Industry) o c. 1820 hyd c. 1840 . Yn ddiweddarach bu'n ysgolfeistr ac yn bostfeistr yn Llandyssil sir Drefaldwyn, lle'r oedd wedi priodi yn 1816 a lle y ganwyd ei blentyn cyntaf yn 1818. Rhwng 1826 a 1841 yr oedd yn byw yn Bank Farm ond erbyn 1846 yr oedd yn byw yn y pentref unwaith eto. Yno y bu farw c.1872. Ymysg ei weithiau y mae ( a ) The otter hunt and the death of Roman, a well-known hound ( Welshpool , 1817 ); ( b ) The Welsh flannel (chwech arg.); ( c ) History of the Chartists and the Bloodless Wars of Montgomeryshire (yn cynnwys ‘ History of Toolly Loolly ,’ ‘ Battle of Abermule ,’ ‘ Battle of Heniarth ,’ ‘ Battle of Caersws ,’ a ‘ Battle of Newtown and Llanidloes ,’ 1840 — y rhain yn dychanu milwyr y sir, sef y ‘ Yeomanry ’); ( ch ) The death of Rowton (a Llandyssil eccentric) ; (d) The extinction of the Mormons .

Llyfryddiaeth:

  • R. Williams , Montgomeryshire Worthies , ail arg., 1894 ;
  • Montgomeryshire collections : relating to Montgomeryshire and its borders , xlix, 257, gyda. darlun.

Awdur:

John Davies Knatchbull Lloyd, M.A., F.S.A., O.B.E., Trefaldwyn

Awdur:

Frazer Thomas