Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



SIÔN ap HOWEL ab OWAIN ( 1550? - 1626/7 ), cyfieithydd ; mab Howel ab Owain , Cefn Trefiaeth , Llanystumdwy a Catherine , merch Rhisiart ap Dafydd o Gefn Llanfair . Yr oedd felly'n nai i Huw ap Rhisiart ap Dafydd ( Bywg. , 376) ac yn gefnder i Richard Hughes ( Bywg. , 367) . Ar ôl marw'i dad yn 1583 ef oedd y penteulu yng Nghefn Treflaeth , ac yr oedd yn un o'r rhai a erlynwyd gan Iarll Caerlŷr yn helynt Fforest yr Wyddfa . Yn llsgr. Llanfair a Brynodol 2 yn y Llyfrgell Genedlaethol ceir copi o ddechrau cyfieithiad Siôn ap Howel o'r Rhetorica ad Herennium i'r Gymraeg . Bu f. yn 1626/7 a'i gladdu yng nghôr Llanystumdwy .

Llyfryddiaeth:

  • Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon , 1958 , 20-21; 1960 , 54-60 a 63-9.

Awdur:

Bedwyr Lewis Jones (1933-92), Bangor