Bu f. Syr Robert Salusbury yn 1599 , ac ar farw ei fab, JOHN SALUSBURY , yn ddi-blant yn 1608 , etifeddwyd y stâd gan ewythr y llanc, y capten John Salusbury . Bu f. yntau hefyd yn ddi-blant ymhen tair blynedd yn 1611 , ac fe'i dilynwyd gan frawd arall, WILLIAM SALUSBURY (a adwaenid yn ddiweddarach fel ‘ Hen Hosanau Gleision '). Gwariasai Syr Robert a'r capten yn bur afradlon yn ystod y 30 mlynedd y buasai'r stadau yn eu meddiant, a phan ddaeth William i'w hetifeddu fe'u cafodd wedi'u morgeisio'n drwm. Ymhen 30 mlynedd arall o lafur caled ac o fyw'n gynnil yr oedd wedi talu'r cwbl o'i ddyledion, wedi adfer ei dreftadaeth ac ychwanegu ati hyd yn oed. Yna, o achos cweryl ffyrnig â'i fab hynaf, OWEN SALUSBURY , ynghylch priodas hwnnw â Mary , merch Gabriel Goodman o Abenbury , protonoter gogledd Cymru , holltodd William ei stadau'n ddwy ran, gan roi'r Rug a thiroedd sir Feirionnydd i Owen a Bachymbyd a thiroedd sir Ddinbych i'w ail fab, Charles . Yr oedd William yn un o bleidwyr selocaf y brenin yn y Rhyfel Cartref ; atgyweiriodd gastell Dinbych ar ei gost ei hun yn 1643 , ac er ei fod mewn oedran teg, ei amddiffyn yn gadarn yn erbyn byddin y Senedd . Nid cyn 26 Hyd. 1646 , wedi deufis o warchae ac ar orchymyn yn llaw'r brenin ei hun, y cytunodd i ildio'r castell i'r cadfridog Mytton . Bu'n aelod seneddol tros sir Feirionnydd 1620-22 a phriododd Dorothy , merch Owen Vaughan o Lwydiarth ; bu f. yn 1660 . Ymddiddorai mewn llenyddiaeth fel y dengys ei gopi o benillion y Ficer Prichard ac eraill yn llsgr. Llanstephan 37 , a phrydyddai ei hun. Anwadal fu rhawd Owen Salusbury , y mab hynaf, yn ystod y Rhyfel Cartref ; yr oedd yn siryf Meirionnydd 1647-8 a bu f. 17 Ion. 1657/8 gan adael stâd Y Rug i'w fab hynaf, WILLIAM SALUSBURY , a fu'n siryf Meirionnydd 1661-2 ac a fu f. yn 1677 . Dilynwyd ef yn ei dro gan ei fab, OWEN SALUSBURY , a droes yn babydd ac a fu f. yn 1694 gan adael dwy ferch. Priododd Elisabeth , yr hynaf, a gafodd Y Rug , â Rowland Pugh o Fathafarn yng Nghyfeiliog , a bu iddynt un mab, WILLIAM SALUSBURY , a fu farw'n ddi-briod, a dwy ferch. Etifeddwyd stâd Y Rug gan yr hynaf o'r ddwy, MARIA ( 1721 - 1780 ) a briododd (1) Thomas Pryse , Gogerddan (bu f. 1745 ), a (2) y Parch. John Lloyd . Bu hi f. 26 Awst 1780 gan adael Rug , trwy ewyllys i Edward Williames Vaughan Salesbury , ail fab Syr Robert Howel Vaughan , Nannau a Hengwrt (gw. dan Nannau , Bywg. , 640) . Bu f. Edward yn Sicily yn 1807 ; yna daeth y stâd yn eiddo i'w frawd iau, Griffith Howel Vaughan ; wedyn, yn 1848 , i nai Griffith , Syr Robert Williames Vaughan , Nannau ac Ystumcolwyn , ac ar ôl Syr Robert i Charles Henry Wynn ( 1847 - 1911 ), Glynllifon , trydydd mab Spencer Bulkeley Wynn , 3ydd barwn Niwbwrch (gw. yr ysgrifau ar deuluoedd Glyn . Glynllifon ( Bywg. , 262) a Wynn , Y Rug ( Bywg. , 1033) .
Brenhinwr pybyr fel ei dad ydoedd CHARLES SALUSBURY , ail fab amddiffynnwr castell Dinbych ; enwyd ef yn ‘ Knight of the Royal Oak ’ yn 1660 . Ei unig blentyn i oroesi ydoedd JANE SALUSBURY , aeres Bachymbyd , a thrwy ei phriodas yn 1670 aeth y stâd honno yn eiddo i'w gŵr, Walter Bagot , mab hynaf, aer ac olynydd Syr Edward Bagot , Blithfield , swydd Stafford , yr ail farwnig . Rhagwelodd cefnder Jane , William Salusbury , Y Rug , y byddai'r briodas hon yn debyg o ladd unrhyw obaith am aduno stadau'r Rug a Bachymbyd yn nwylo un o'r Salbriaid , a bu Bachymbyd yn achos gornest faith a chwerw yn y llysoedd rhyngddo ef a gŵr Jane . Eithr ofer fu ei ymdrechion i ad-feddiannu'r stâd, ac yng nghwrs y frwydr gorfu i Gabriel Salusbury , brawd William , ddianc i'r Cyfandir am iddo fod â llaw mewn ffugio gweithred ynglŷn â'r achos.
Emyr Gwynne Jones, M.A., (1911-72), Bangor
William James Smith, M.A., Reading
Bu f. Syr Robert Salusbury yn 1603 , a'i fab hynaf a'r aer, John Salusbury , yn ddiblant, yn fuan ar ei ôl yn 1607/8 . Daeth stad Rug , felly, i feddiant WILLIAM SALUSBURY , brawd arall i Syr Robert , a adwaenir fel ‘ Hen Hosanau Gleision .’ Yr oedd yn un o bleidwyr selocaf y brenin yn y Rhyfel Cartrefol ; atgyweiriodd gastell Dinbych ar ei gost ei hun yn 1643 , ac er mewn oedran teg, ei amddiffyn yn gadarn yn erbyn byddin y Senedd ; ac nid cyn 26 Hydref 1646 , wedi deufis o warchae, y cytunodd i ildio'r castell i'r cadfridog Mytton . Bu'n aelod seneddol dros ei sir, 1620-2 , a phriododd Dorothy , merch Owen Vaughan , Llwydiarth .
O'i dri mab, yr hynaf, ac aer Rug , oedd Owen Salusbury (bu f. 1657 ), siryf sir Feirionnydd , 1647-8 ; priododd Mary , merch ac aeres Gabriel Goodman , Abenbury , ‘protonotary’ Gogledd Cymru , a bu f. 17 Ionawr 1657/8 . Cafodd CHARLES SALUSBURY , yr ail fab, stad Bachymbyd , ac yn 1660 yr oedd i fod yn ‘ Knight of the Royal Oak ’ fel teyrnged i wasanaeth teulu Rug i'r brenin Siarl I . Dilynwyd Owen Salusbury gan ei fab WILLIAM SALUSBURY , siryf sir Feirionnydd , 1661-2 , a fu f. yn 1677 , a chan ei fab yntau, OWEN SALUSBURY (bu f. 1694 ), a droes yn Gatholig ac a fu f. yn 1694 , gan adael dwy ferch. Priododd Elisabeth , yr hynaf, a gafodd Rug , â Rowland Pugh , Mathafarn yng Nghyfeiliog , a bu iddynt un mab, WILLIAM SALUSBURY , a fu farw'n ddibriod, a dwy ferch. Etifeddwyd stad Rug gan yr hynaf o'r ddwy, MARIA ( 1721 - 1780 ) a briododd (1), Thomas Pryse , Gogerddan (bu f. 1745 ), a (2), y Parch. John Lloyd . Bu hi f. 26 Awst 1780 , gan adael Rug trwy ewyllys i Edward William Vaughan , ail fab Syr Robert Howel Vaughan , Nannau a Hengwrt . Bu f. Edward yn Sicily , 1807 ; yna daeth y stad yn eiddo i'w frawd ieuengaf, Griffith Howel Vaughan , wedyn, yn 1848 , i nai Griffith , Syr Robert Williames Vaughan , Nannau ac Ystumcolwyn , ac ar ôl Syr Robert , i Charles Henry Wynn ( 1847 - 1911 ), Glynllifon , trydydd mab Spencer Bulkeley Wynn , y 3ydd barwn Newborough .
Emyr Gwynne Jones, M.A., (1911-72), Bangor