ROBERTS, JOHN BRYN (1843 - 1931), cyfreithiwr a gwleidydd

Enw: John Bryn Roberts
Dyddiad geni: 1843
Dyddiad marw: 1931
Rhiant: Ann Roberts
Rhiant: Daniel Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyfreithiwr a gwleidydd
Maes gweithgaredd: Cyfraith; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 8 Ionawr 1843 (a'i fedyddio fel John Roberts) yn fab i Daniel ac Anne Roberts, Bryn Adda, Bangor, ac yn aelod o deulu eang Roberts o'r Castell, Llanddeiniolen, Sir Gaernarfon (gweler J. E. Griffith, Pedigrees, 381). Addysgwyd ef yn Cheltenham, gorffennodd ei hyfforddiant fel cyfreithiwr yn 1868, a gwnaed ef yn far-gyfreithiwr o Lincoln's Inn yn 1889. Etholwyd ef yn aelod seneddol Rhyddfrydol dros dde sir Gaernarfon yn 1885, a daliodd y sedd hyd 1906 pan benodwyd ef yn farnwr llys sirol ym Morgannwg. Yn 1918 trosglwyddwyd ef i gylchdaith Gogledd Cymru a Chaer. Ymddiswyddodd yn 1921, a bu farw ym Mryn Adda, 14 Ebrill 1931. Claddwyd ef ym mynwent Llanfair-is-gaer. Yr oedd Bryn Roberts yn ddyn rhyfeddol iawn. Dilynai gŵn cadno yn hollol ddi-ofn, a phan oedd yn nesu at ei 80 oed dechreuodd yrru modur, gan wneud hynny mewn modd braidd yn beryglus. Gyrrai ei gerbyd, yng ngeiriau cyfaill iddo, fel pe bai yn marchogaeth ceffyl hela. Perthynai ei ryddfrydiaeth wleidyddol i'r hen deip personol. Nid oedd yn bleidiol i sosialaeth nac i'r mudiad cenedlaethol ym mywyd gwleidyddol Cymru. Gwrthwynebai'r rhyfel yn Ne Affrica, a phan ddechreuodd rhyfel 1914, ceir tystiolaeth y teimlai na ddylai Prydain fod wedi cyhoeddi rhyfel, er fod ei sefyllfa fel barnwr yn ei rwystro rhag dweud hynny'n gyhoeddus. Yn wir, yn wleidyddol, nid oedd yn ŵr hawdd i gydweithio ag ef. Er ei fod yn gwrthwynebu'n gryf 'Imperialaeth Ryddfrydol' Asquith a Grey, nid oedd yn barod i gynorthwyo ymgyrch Lloyd George yn erbyn Deddf Addysg Balfour yn 1902. Hefyd, yn ddiweddarach, gwrthwynebodd i'r eithaf lywodraeth gyfunol Lloyd George. Ni wnaeth lawer o enw iddo'i hun yn Nhŷ'r Cyffredin, ac nid oedd yn siaradwr deniadol ar lwyfan, ond, er hynny, llwyddai i wneud argraff ar ei wrandawyr. Yr oedd ganddo wybodaeth drylwyr o'r gyfraith, ac er bod ei ddyfarniad yn y llysoedd sirol yn aml yn amhoblogaidd, cadarnheid hwynt pan apelid yn eu herbyn. Disgrifiwyd ef gan un o farnwyr y Llys Apêl fel ' that very learned judge '. O ran crefydd yr oedd yn Fethodist Calfinaidd ac yn flaenor, ond yn y maes hwn eto yn ŵr o farn annibynnol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.