ROBERTS, EVAN (bu farw 1650), Piwritan cynnar

Enw: Evan Roberts
Dyddiad marw: 1650
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Piwritan cynnar
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Credir gan rai mai ef oedd y Roberts a ddiarddelwyd gan esgob Ty Ddewi yn 1634 am ei anghydffurfiaeth. Y mae'n sicr iddo gael ei benodi gan Bwyllgor y Gweinidogion Anrheithiedig yn 1642 i bregethu yn Saesneg a Chymraeg ym mhlwyf Llanbadarn-fawr, Sir Aberteifi, a'r plwyfi cyfagos, am gyflog o £100 y flwyddyn, ac iddo gael ei benodi'n weinidog y plwyf hwnnw yn 1646. Yn 1649 cyhoeddodd Sail Crefydd Gristnogol, cyfieithiad o Foundation of the Christian Religion gan Perkins. Bu farw 1650; rhoddwyd arian i'w weddw i addysgu eu plant.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.