RICHARDS, THOMAS (1859 - 1931), aelod seneddol ac ysgrifennydd ffederasiwn glöwyr de Cymru

Enw: Thomas Richards
Dyddiad geni: 1859
Dyddiad marw: 1931
Priod: Elizabeth Eleanor Richards (née Thomas)
Rhiant: Mary Richards
Rhiant: Thomas Richards
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: aelod seneddol ac ysgrifennydd ffederasiwn glöwyr de Cymru
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Griffith Milwyn Griffiths

Ganwyd 8 Mehefin 1859 yn y Cendl, Glyn Ebwy, sir Fynwy, yn fab i Thomas a Mary Richards. Addysgwyd ef yn ysgol Brydeinig y Cendl, a dechreuodd weithio mewn pwll glo pan oedd yn ddeuddeg oed. Chwaraeodd ran amlwg yng ngwaith undebau'r glöwyr yn ardal Glyn Ebwy, a bu'n aelod o'r ' Sliding Scale Association '. Etholwyd ef yn aelod o gyngor sir Mynwy yn 1891, a gwnaed ef yn henadur yn 1904 ac yn gadeirydd y cyngor yn 1924. Pan ffurfiwyd ffederasiwn glöwyr de Cymru yn 1898 penodwyd ef yn ysgrifennydd, swydd a ddaliodd hyd ei farw. Etholwyd ef yn aelod seneddol Llafur dros orllewin Mynwy yn 1904 a chynrychiolodd yr etholaeth honno hyd 1918 ac etholaeth Glyn Ebwy o 1918 hyd iddo ymddeol yn 1920. Gwnaed ef yn aelod o'r Cyngor Cyfrin yn 1918. Bu am ryw ddwy flynedd, 1929-1931, yn llywydd ffederasiwn glöwyr Prydain Fawr. Yn 1880 priodasai Elizabeth Eleanor Thomas. Bu farw 7 Tachwedd 1931 a chladdwyd ef ym mynwent Caerdydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.