Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



PROTHERO , THOMAS ( 1780 - 1853 ; D.W.B. , 1147), cyfreithiwr, perchennog glofeydd, a dinesydd dylanwadol yng Nghasnewydd, Mynwy ; mab Thomas Prothero , Brynbuga , atwrnai , clerc yr heddwch yn sir Fynwy , cofiadur Brynbuga , a stiward Dug Beaufort . Tybir mai plentyn siawns ydoedd, a bod cadarnhâd i hyn, oherwydd yng nghyfrifiad 1851 dywedodd iddo gael ei eni yn sir Fynwy , heb enwi'r plwyf. Yn gynnar yn ei oes daeth yn atwrnai yng Nghasnewydd a'i dderbyn yn ddinesydd 9 Hyd. 1807 ; dridiau'n ddiweddarach fe'i penodwyd yn glerc corfforaeth gyfyngedig Casnewydd . At hyn daeth yn oruchwyliwr i Syr Charles Morgan , Tredegyr , perchennog y rhan fwyaf o'r tir yr adeiladwyd Casnewydd arno, a hefyd i ddau berchen tir arall. Trwy hyn cafodd gyfle i ychwanegu at ei waith ei hun fel cyfreithiwr trwy drosglwyddiadau tiroedd, a thrwy ychwanegu cymalau, i'w fantais ei hun, ar adeg pryd y datblygai blaenau Mynwy eu hadnoddau mewn glo a haearn, gyda Chasnewydd , yn borthladd naturiol iddynt.

Gyda'i gydweithiwr, Syr Thomas Phillips ( Bywg. , 717) , a'i dilynodd fel clerc y dref , cafodd Prothero 'r gwaith cyfreithiol ynglyn â hyrwyddo mesurau er gwella'r dref , ei strydoedd a'i ffyrdd, ei phorthladd a'i harbwr. Daeth felly'n gefnog iawn, ac ni faliai fawr pa fodd y casglai gyfoeth. Fe'i disgrifir fel dyn ymladdgar a thrahaus, ac fe'i cyhuddwyd o godi gormod a gweithredu'n annheg, gan ei brif elyn, John Frost , ( Bywg. , 254-5) y siartydd , a fu unwaith yn gynghorydd tref , yn ynad heddwch , ac yn faer . Cyhoeddodd Frost nifer o'r llythyrau hyn, a pheri mawr foddhad i'r bobl hynny yng Nghasnewydd a ddioddefasai dan Prothero . Aeth yn fancer , ac yr oedd yn drysorydd elusen Caerllion-ar-Wysg , y perthynai iddi eiddo lawer mewn mwynau: fel masnachwr llechi a choed darparodd y defnyddiau angenrheidiol ar gyfer yr elusen honno. Gyda Thomas Powell yr oedd yn un o'r allforwyr glo pwysicaf yng Nghasnewydd , ac fe'u cyhuddwyd o geisio ffurfio monopoli yn y maes hwnnw. Ar un adeg yr oedd yn is-siryf , a llwyddodd i gael ei bobl ei hun ar yr uchel reithgor er mwyn sicrhau dedfryd yn erbyn John Frost .

Trigai yn ‘ The Friars ’ i ddechrau, ac yna ym ‘ Malpas Court ’: parhaodd y lle hwnnw'n eiddo i'w deulu. Bu'n uchel siryf y sir yn 1846 . Bu f. yn ddisyfyd yn Llundain , 24 Ebrill 1853 , yn 73 oed. Priododd ddwywaith. Rhoddir lle yn y D.N.B. i ddau o'i wyrion, Syr George Walter Prothero 1848 - 1922 ), hanesydd , a Rowland Edmund Prothero , barwn Ernle ( 1851 - 1937 ), gweinyddwr ac awdur .

Llyfryddiaeth:

  • Dogfennau y P.D. Steam Coal Co., a enwir yn ‘The History of the P.D.Co.’, gan W. W. Price yn y P.D. and G.L.M. Review. A magazine of the coal trade activities of Powell Duffryn Associated Collieries, Ltd., Guéret, Llewellyn & Merrett, Ltd., and allied companies’ , Caerdydd a Llundain, 1935-37. Cyhoeddir gan gwmni ‘Powel Dyffryn.’ ;
  • Diary of Thomas Clarkson ;
  • The Cambrian , 6 Meh. 1829 ;
  • Census 1851 (yn y P.R.O.);
  • Bradney , A History of Monmouthshire ;
  • Burke's Landed Gentry
  • David Williams , John Frost, A Study in Chartism , 1939 ;
  • ymchwil bersonol.

Awdur:

Watkin William Price, M.A., (1873-1967), Aberdâr