Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



PRICE , JOHN ( 1734 - 1813 ) ( Bywg. , 740) ni bu ei dad, Robert Price , yn Llandegla ond o 1731 hyd 1737 ; symudodd i fywoliaeth Llangollen , lle y bu hyd ei f. yn 1771 — claddwyd 9 Medi .

Atodiadau a chywiriadau:

PRICE , JOHN ( 1734 - 1813 ), llyfrgellydd Bodley, Rhydychen . g. yn 1734 yn y Tŵr , Llangollen , mab y Parch. Robert Price , Llandegla , sir Ddinbych . Addysgwyd ef yng Ngholeg Iesu , Rhydychen , lle yr ymaelododd 26 Mawrth 1754 . Graddiodd B.A. 1757 , M.A. 1760 , a B.D. 1768 . Penodwyd ef yn borthor (‘ janitor ’) yn Llyfrgell Bodley yn 1757 , yn is-lyfrgellydd yn 1765 , yn llyfrgellydd gweithredol , 1762 , a phrif lyfrgellydd yn 1768 . Daliodd y swydd hyd ei farw. Yr oedd yn gurad Northleigh , sir Rhydychen , o 1766 i 1773 , a churad Wilcote yn yr un sir yn 1775 . Yn 1782 derbyniodd fywoliaeth Wollaston ac Alvington , sir Gaerloyw , ac yn 1798 eiddo Llangatock , sir Frycheiniog . Etholwyd ef yn F.S.A. yn 1797 ; tua'r un amser ymfudodd i Goleg y Drindod , a gwnaeth lawer o gymwynas i'r coleg hwn. Trigai yn S. Giles , bu f. 12 Awst 1813 , a chladdwyd ef yn Wilcote . Cyhoeddodd A Short account of Holyhead in the Isle of Anglesey , 1783 , sef rhif 10 o'r Bibliotheca Topographica Britannica . Hefyd, cyfrannodd ysgrif i Archaeologia (cyfrol 8) o dan y teitl ‘ An account of a bronze image of Roman workmanship. ’ Cynhwysir amryw o'i lythyrau yn Nichols , Illustrations of Literary History , ynghyd â'r unig ddarlun ohono sydd ar gael.

Llyfryddiaeth:

  • Oxford Dictionary of National Biography , a'r awdurdodau a enwir yno;
  • Llawysgrif Llyfrgell Genedlaethol Cymru 9270.

Awdur:

John James Jones, M.A., (1892-1957), Aberystwyth