Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



OWEN , WILLIAM ( 1750 - 1830 ; Bywg. , 680) Darllener Milborne (nid ‘Milbourne’) Port y ddeudro.

Atodiadau a chywiriadau:

OWEN , WILLIAM ( 1750 - 1830 ), clerigwr efengylaidd , olynydd Thomas Charles o'r Bala [q.v.] yn Sparkford a Milbourne Port , Gwlad yr Haf ; mab hynaf Joseph Owen , rhydd-ddeiliad y Fron Goch , Nanhyfer , sir Benfro ; g. yn 1750 . Ordeiniwyd ef yn ddiacon ar 15 Awst 1773 ac yn offeiriad ar 6 Awst 1775 . Bu'n gurad yn ei gartref, sef Nanhyfer , 1775-9 , yn Sparkford , 1783-5 , ac yn Milbourne Port , 1785-91 , gan ddyfod yn gurad ‘parhaol’ yn Milbourne Port yn nes ymlaen. Rhoddes esgob Henffordd iddo ficeriaeth Almeley 11 Rhagfyr 1816 ac at hynny cafodd reithoraeth Ryme Intrinsica , Sherborne , 6 Mawrth 1823 , dan nawddogaeth tywysog Cymru (y brenin Siôr IV wedi hynny). Ymwelai â sir Benfro 'n fynych, a daeth y Fron Goch yn eiddo iddo ar farw ei dad. Bu'n gefnogydd eiddgar i'r genhadaeth dramor (y ‘ Church Missionary Society ’). Bu f. 4 Chwefror 1830 a chladdwyd yn Sherborne .

Llyfryddiaeth:

  • E. Morgan , A brief Memoir of the life and labours of the Rev. T. Charles, A.B. late of Bala, Merionethshire , Llundain / Bala, 1828 , 196;
  • The Carmarthen Antiquary , ii, 193;
  • E. Morgan , Essays, letters, and interesting papers of the late Rev. Thomas Charles , Llundain, 1836 , 359-60;
  • D. E. Jenkins , Life of Thomas Charles , 1908 , i, 518-9.

Awdur:

Y Parch. Daniel Williams, (1878-1968), Llangollen