OWEN, WILLIAM DAVID (1874 - 1925) cyfreithiwr a newyddiadurwr

Enw: William David Owen
Dyddiad geni: 1874
Dyddiad marw: 1925
Priod: Gwendoline Owen (née Empsell)
Rhiant: Jane Owen
Rhiant: William Owen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyfreithiwr a newyddiadurwr
Maes gweithgaredd: Cyfraith; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 21 Hydref 1874 yn Nhŷ Franan, Bodedern, sir Fôn, yn fab i William a Jane Owen. Bu'n ddisgybl-athro yn ysgol y pentref, ac yn ddiweddarach yn Y Garth, Bangor (tan L. D. Jones). Bu hefyd yn fyfyriwr yng ngholeg Normal Bangor. Wedi treulio ysbaid fel athro ysgol, trodd at newyddiaduriaeth. Wedi hyn cafodd ei wneud yn fargyfreithiwr, ac yn olaf dychwelodd i sir Fôn fel cyfreithiwr yn Rhosneigr a Llangefni.

Bu farw yn Rhosneigr 4 Tachwedd 1925, a chladdwyd ef 7 Tachwedd yng Ngwalchmai. Priodasai Gwendoline Empsell a oedd yn olygydd cylchgrawn i wragedd.

Rhoddir lle i Owen yn y gyfrol hon fel awdur y rhamant eithriadol fywiog a phoblogaidd Madam Wen (Wrecsam, 1925).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.