OWAIN ab EDWIN
(
Bywg.
, 648)
Ei ferch oedd yr
Angharad
a briododd
Gruffydd ap Cynan
(nid ‘ei chwaer’).
Atodiadau a chywiriadau:
OWAIN ab EDWIN
(bu f.
1105
),
uchelwr
yn
Nhegeingl
(
sir y Fflint
yn awr).
Dywedid mai meibion oedd ef a'i frawd,
Uchtryd
, i
Edwin ap Gronw
(gor-or-ŵyr
Hywel Dda
)
ac
Iwerydd
, hanner-chwaer
Bleddyn ap Cynfyn
[q.v.]
. Serch i
Owain
gynorthwyo yr
iarll Hugh o Gaer
yng nghyrch annhymig hwnnw yn erbyn
Gwynedd
yn
1098
, priododd
Angharad
, ei
chwaer
, â
Gruffydd ap Cynan
[q.v.]
.
Gronw
ei fab, oedd tad
Christina
[q.v.]
, ail wraig
Owain Gwynedd
[q.v.]
. Ni ddylid cymysgu rhyngddo â chefnder ei dad, hwnnw hefyd yn
Owain ab Edwin
, eithr o linach tywysogion
Deheubarth
.
Llyfryddiaeth:
-
A History of Wales
;
-
Oxford Dictionary of National
Biography
Awdur:
Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964),
Aberystwyth