Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



NANNEY , DAVID ELLIS ( 1759 - 1819 ), sgweier y Gwynfryn a bargyfreithiwr ;

G. yn 1759 , mab i Richard Ellis , ficer Clynnog , aelod o deulu Bodychen a gartrefai yn y Gwynfryn ger Llanystumdwy ar stad a ddaeth i ran un o'i hynafiaid drwy briodas lwcus yn 1667 ; ei fam oedd Catherine , merch yr efengylwr Richard Nanney , a oedd hefyd yn ficer Clynnog , m. 1767 . Ymaelododd David Ellis yng ngholeg Pembroke , Rhydychen , yn 1778 , graddio'n B.A. yn 1782 ; yn yr un flwyddyn derbyniwyd ef i'r Middle Temple , a'i alw i'r bar yn 1787 ; yn ddiweddarach penodwyd ef yn dwrne cyffredinol i Ogledd Cymru o dan hen drefn y Sesiwn Fawr . Tyfodd yn ŵr hyfedr yn y gyfraith, gan gyfaddasu at ei chyfrinion synnwyr cyffredin iachus, ac nid oedd gyfreithiwr uwch ei air nag ef yng ngogledd Cymru ym mlynyddoedd cyntaf y 19 ganrif . Gofynnid am ei farn yn aml, tu allan i'r llysoedd, ar broblemau cymhleth a flinai rai o'r prif deuluoedd; a phan ddeuai'r dyfarniad, teimlid ar unwaith ei fod yn waith meistr, clir, cryno, pob gair yn ei le, dim gair yn ormod. Enghreifftiau da o'i feddwl clir, ei eglurder pendant, oedd y dull y gwastataodd anawsterau'n codi o weithred briodas yn sir Fôn ( Henllys 217), ei farn na ellid gafael mewn nwyddau er mwyn cael rhent os oeddynt eisoes wedi eu gwerthu'n onest heb feddwl drwg ( Lligwy 4A ), y traethawd bychan ar wir ystyr prydles o dan ba amgylchiadau y gellid ei thorri, gan nodi'r gwahaniaeth rhwng prydles dros nifer o flynyddoedd a phrydles dros nifer o fywydau ( Penrhyn, 1848 ). Daeth yn sgweier y Gwynfryn ar ôl marw'i dad yn 1805 ; yn 1812 etifeddodd diroedd y Nanneiod ym Machwen ac Elernion drwy ewyllys hen lanc o ewythr ar yr amod ei fod yn rhoddi Nanney ar ôl ei enw. Bu f. 5 Meh. 1819 , heb blant, a gadawodd ei stad i'w nai, Owen Jones o Fryn-hir , ar yr amod ei fod yntau yn dwyn yr enw Ellis-Nanney . Owen Jones oedd tad Syr H. J. Ellis-Nanney , gwrthwynebydd Mr. Lloyd George yn etholiad bwrdeistrefi Caernarfon yn 1890 .

Ffynonellau:

  • J. E. Griffith : Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families , 1914 , 164-5, 228;
  • Foster : Alumni Oxonienses , 1715-1886 , 420;
  • Register of Admissions to the Honourable Society of the Middle Temple, 1501–1944 , 1949 , ii, 393;
  • Llawysgrifau Bangor yn Llyfrgell Coleg y Gogledd, Bangor 683 (1-4), 3671-2;
  • Llawysgrifau Porth-yr-Aur yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor (Coleg y Gogledd) 16,539-16, 788);
  • papurau stad y cyfeirir atynt yn yr ysgrif.

Awdur:

Thomas Richards, D.Litt., (1878-1962), Bangor

Blwyddyn Cyhoeddi: 1970