MOSTYN
,
AMBROSE
(
1610
-
1663
;
D.W.B.
, 1143-4),
pregethwr Piwritanaidd
y bu'r achyddwyr yn esgeulus ohono;
gallasai
Lewis
Dwnn
fod wedi cynnwys ei enw yn ei
Heraldic Visitations
, ond ni wnaeth; ceir llawer iawn o fanylion yn
Powys Fadog
am deulu
Mostyn
, ond dim gair am y
Mostyn
hwn; cafodd
T. A.
Glenn
gyfle i gyfeirio ato yn ei
Mostyns of Mostyn
, ond collodd ef. Fel mater o ffaith un o
Fostyniaid
Calcot
oedd
Ambrose
Mostyn
, cangen o
Fostyniaid
Talacre
, mab i
Dr
Henry
Mostyn
,
Canghellor Bangor
, ac ŵyr i
Syr
Pirs
Mostyn
o
Dalacre
, hynny yw, mab i
Eglwyswr
digymrodedd ac ŵyr i
Babydd
. Derbyniwyd ef i
goleg y Trwyn Pres
, yn
Rhydychen
,
16 Mai 1627
, fel
doctoris filius
, graddiodd yn
B.A.
yn
Ion. 1630
, ac yn fuan iawn datblygodd, yn erbyn holl draddodiadau ei deulu, yn
Biwritan
diamheuol. Ar
19 Ebr. 1642
cafodd ei enwi gan
Dŷ'r Cyffredin
yn
‘ddarlithydd' Piwritanaidd
yn
Pennard
yn
sir Forgannwg
; ar
20 Gorff. 1644
, gorchmynnwyd iddo weithio yng
ngogledd Cymru
; yn ddiweddarach, ar
27 Gorff. 1646
, gorchmynnwyd ef gan
Bwyllgor y Gweinidogion Llwm
i
bregethu
yn
Abertawe
a'r cylch, ac mor effeithiol oedd ei waith fel mai iddo ef y rhoddir y clod (gan
Henry
Maurice
yn ei adroddiad am gynulleidfaoedd
Cymru
yn
1675
) am
drefnu'r eglwys ‘gynulledig’ gyntaf yn y rhanbarth
hwnnw, cnewyllyn a wnaeth
Abertawe
yn un o brif gadarnleoedd
Anghydffurfiaeth
Cymru
. Heb fod yn hir, ar
7 Meh. 1648
, cafodd alwad eto o'r de i'r gogledd, canys gorchmynnwyd iddo gan yr un pwyllgor
fyned ar deithiau pregethu yn siroedd y gogledd
yng nghwmni
Morgan
Llwyd
(
Bywg.
, 561)
a
Vavasor
Powell
(
Bywg.
, 731)
, y tri i dynnu eu swcwr o ddegymau chwe plwy yn
Arwystli
. Yn ddiweddarach enwyd ef yn un o'r 25 profwyr o dan
Ddeddf Taenu'r Efengyl
(
1650-3
) ac ymddengys iddo dreulio cyfnod ym
Maldwyn
; yn
1654
ef oedd un o'r gweinidogion a benodwyd i fod wrth benelin y comisiynwyr a oedd i droi
Anglicaniaid
ystyfnig ac ysgyfala allan o'u lleoedd; ar
25 Medi 1655
, ef a bregethai o flaen
barnwyr y frawdlys
yn
Wrexham
. Er na roddodd ei enw wrth y brotest siarp yn erbyn Diffynwriaeth
Cromwell
, y
Word for God
, y mae lle cryf i gredu nad oedd yn hollol fodlon ar y datblygiadau newydd a chymerodd hyd
Hyd. 1656
, cyn penderfynu gofalu am saint
Holt
o dan fendith y
Triers
. Ar farwolaeth
Morgan
Llwyd
yn
1659
penodwyd ef (yn ôl cofnod yn y
Lambeth MS 987
) yn fugail ar gynulleidfa
Wrexham
, er nad oes neb yn hollol sicr beth oedd rhychwant y fugeiliaeth honno, na pha le yr oedd yr aelodau yn cwrdd. Ar ôl dyfod
Adferiad 1660
a'r troi allan a'i dilynodd, arhosodd
Mostyn
am beth amser yn
Wrexham
a'r cylch; yn niwedd
Ebrill, 1661
, cafodd loches gan yr
Arglwydd Piwritanaidd Saye a Sele
yn
sir Rhydychen
gan wasanaethu fel
caplan
i'r teulu; yn ddiweddaf oll, ymadaw
odd am
Lundain
, lle y bu farw yn nyddiau olaf
1663
Yr oedd
Mostyn
yn ŵr cyfrifol a dibynadwy, a'i olygiadau yn gymedrol uniongred (er iddo unwaith amlygu syniadau ar fedydd plant a barodd dipyn o syndod i
Philip
Henry
; q.v.;
Bywg.
, 325)
. Yr oedd
Piwritaniaid
mawr, mwy nag ef, yn falch o'i air da, ac yn barod i ymddiried iddo eu pethau mwyaf cysegredig: enwyd ef gan
Walter
Cradock
(
Bywg.
, 78)
fel goruchwyliwr ei ewyllys olaf; ef oedd un o'r ddau
sgutor
ar ewyllys
Morgan
Llwyd
. A phan fu farw ei wraig gyntaf,
Jane
,
26 Gorff 1651
, cafodd air caredig oddi wrth y
Piwritan
gwreiddiol ond annosbarthus hwnnw,
William
Erbery
(
Bywg.
, 202)
. Goroeswyd ef gan ei ail wraig,
Elisabeth
ferch
Syr
Edward
Broughton
,
barwnig
,
Marchwiail
(
?1610
-
1665
)
Llyfryddiaeth:
-
Firth a Rait
:
Acts and Ordinances of the Interregnum,
1642–1660
, 1911
, ii, 983-4;
-
Bodleian Manuscripts
323 (114), 325 (68-68b);
-
The Journals of the House of
Commons
, ii, 551, iii, 565;
-
Cyfeirir at ddau argraffiad, gan E. B. Underhill,
1847, a Nathaniel Haycroft, 1865. Cyfeirir hefyd at Addenda B
(tt. 511–9 yn arg. 1847)
Add B
, 514;
-
Calamy
,
An account of the ministers…ejected
,
1660–2
, ii, 714;
-
Calendar of the Committee for Compounding
with Delinquents, etc., 1643–1660
. Record Publication
, iii,
1725
;
-
Lambeth Manuscripts
977 (42); 987 (200-1);
-
Philip Henry
,
Diaries and letters of Philip Henry, M.A. of
Broad Oak, Flintshire, A.D. 1631-1696
, Llundain,
1882
, 42, 74, 153
-
[Gw bellach
Y Cofiadur
, 31, tt 62-5]
Awdur:
Thomas Richards, D.Litt., (1878-1962), Bangor