MORGAN
,
THOMAS
(
1737
-
1813
;
Bywg.
, 615)
g.
2 Tach. 1737
.
Atodiadau a chywiriadau:
MORGAN
,
THOMAS
(
1737
-
1813
),
gweinidog Undodaidd
;
g. ym mhlwyf
Llannon
,
sir Gaerfyrddin
. Ychydig dros ben a wyddys am ei yrfa yn 30 mlynedd cyntaf ei fywyd, ac y mae'r hanes a adroddir gan
William
Williams
(‘
Carw Coch
’) [q.v.]
yn ei
Weddillion Llenyddol
(68-86) yn anghyson ag ef ei hunan ac â ffeithiau hysbys.
Ysgolfeistr
a
gwehydd
oedd
Thomas
Morgan
ar y cyntaf; yr oedd iddo hefyd gryn enw fel
llysieuegwr
a
meddyg gwlad
, a dywedir mai ef oedd
un o'r rhai cyntaf i fuch-frechu
ym
Morgannwg
. Credai
Walter J.
Evans
(
Yr Ymofynydd
,
1900
) mai ef oedd y
Thomas
Morgan
a fu yn
academi Caerfyrddin
o
ganol 1769 hyd ganol 1772
; nid ymddengys hynny'n anghredadwy, ond dylid cofio nad oes gennym ond yr enw noeth, ‘
Thomas
Morgan
,’ heb unrhyw awgrym o hanes blaenorol y gŵr hwnnw, yn llyfr cyfrifon y
Bwrdd Presbyteraidd
(y mae llyfr cofnodion y
Bwrdd
, a fuasai wedi rhoi manylion, ar goll am y cyfnod hwnnw); heblaw hynny, yr oedd y myfyriwr hwnnw'n derbyn grantiau, ac yr oedd rheol yn gwrthod y rheini i ddyn dros 23 oed. Ar y llaw arall, yr oedd
Jenkin
Jenkins
[q.v.]
,
athro'r academi
, yn bresennol pan urddwyd
Thomas
Morgan
yn
weinidog
Blaengwrach
,
1 Gorffennaf 1772
, ac y mae'r dyddiadau hefyd yn ffitio'n dda. Yr oedd y gynulleidfa honno bellach wedi hen gefnu ar ei
Chalfiniaeth
, ac yn
Ariaidd
, a gwyddom fod
Morgan
ei hunan yn
Undodwr
erbyn
1802
beth bynnag, oblegid yr oedd yn aelod o ‘
Gymdeithas Ddwyfundodaidd Deheudir Cymru
’ y pryd hwnnw.
Cadwai ysgol
ym
Mlaengwrach
.
Parlyswyd
ef yn
1809
; yn
1810
aeth i fyw gyda pherthynas gerllaw
Pontardawe
; bu f. yno
17 Hydref 1813
, a'i gladdu ym mynwent
capel Undodaidd y Gellionnen
. Yn ôl ei goflech, yr oedd yn 76 oed.
Llyfryddiaeth:
-
D. Rhys Phillips
,
The Hist. of the Vale of Neath
,
Abertawe, 1925
, 144;
-
Yr Ymofynnydd
,
Ebrill 1931
;
-
Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y
Cymmrodorion
,
1946-7
, 127-8;
- a'r cyfeiriadau uchod.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D.,
F.S.A., (1881-1969), Bangor