Mab hynaf Maurice ap Ellis a'i wraig ( Ellen , ferch Syr John Puleston ) oedd Syr William Maurice ( 1542 - 1622 ) [q.v.] , a gymerodd yn wraig gyntaf, Margaret , ferch ac aeres John Wynn Lacon , Porkington (a elwir Brogyntyn yn awr), a Llanddyn , ac un o blant y briodas honno oedd y capten ELLIS MAURICE ( 1568 - ? ), a fu'n ymladd dros y frenhines Elisabeth yn Iwerddon ; aeres Ellis Maurice oedd Margaret , a briododd (1) John Jones , Wern , Penmorfa — gw. Wynne (Teulu) Peniarth , a (2) Ellis Anwyl , Parkie , sir Gaernarfon .
Dilynwyd Sir William Maurice yng Nghlenennau gan ei ŵyres, ELLIN ( 1578 - 1626 ), aeres Clenennau , Porkington , a Llanddyn , merch William Wynn Maurice (a fu f. yn 1568 , sef o flaen ei dad, Sir William Maurice ; gwraig W. W. Maurice oedd Mary , ferch John Lewis , Chwaen , sir Fôn ). Bu Ellin yn briod ddwywaith — (1) â John Owen , ysgrifennydd Syr Francis Walsingham a mab Owen ap Robert , Bodsilin , sir Gaernarfon , a (2), â Sir Francis Eure (bu f. 1621 ), prif farnwr cylchdaith gogledd Cymru . Trwy ei gŵr cyntaf, yr oedd yn fam i dri mab a phum merch. Y tri mab oedd y cyrnol Syr John Owen (bu f. 1666 ) [q.v.] , y cyrnol Syr WILLIAM OWEN (bu f. 1670 neu 1671 ), Porkington , a fu'n amddiffyn castell Harlech dros y brenin Siarl I , a Maurice Owen , a gafodd diroedd yn sir Fôn gan ei fam. Aer y cyrnol John Owen oedd WILLIAM OWEN (claddwyd 30 Ionawr 1667/8 ), a briododd Catherine , unig blentyn Lewis Anwyl , Park , Llanfrothen , a gadael Syr ROBERT OWEN ( 1658 - 1698 ) , Clenennau , Porkington , a Llanddyn , yn aer. Bu Syr Robert Owen yn aelod seneddol Meirionnydd o 1681 hyd 1685 ac yr oedd yn aelod dros sir Gaernarfon adeg ei farw. Ei wraig ef oedd MARGARET , merch hynaf ac aeres Owen Wynne , Glyn (Cywarch) , sir Feirionnydd . Am fraslun o hanes aelodau diweddarach y teulu, sef disgynyddion Syr Robert a Lady Owen , gw. yr erthygl ar Wynne ac Owen (Teuluoedd), Glyn (Cywarch) a Brogyntyn . Eglurir yn y gwaith gan T. Jones Pierce a enwir isod sut y tyfodd stad a theulu Clenennau i bwysigrwydd mawr yn sir Gaernarfon .
Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth