MADOG ap GRUFFYDD
(
Bywg.
, 571)
Dilëer (q.v.) ar ôl
Gruffydd Maelor
II
.
Atodiadau a chywiriadau:
MADOG ap GRUFFYDD
(bu f.
1236
),
arglwydd Powys
;
mab hŷn
Gruffydd Maelor
I
[q.v.]
ac
Angharad
, ferch
Owen Gwynedd
[q.v.]
. Ynghyd â'i frawd
Owen
, dilynodd
Gruffydd Maelor
yn
1191
, a phan fu
Owen
f. yn
1197
daeth yn unig
reolwr
Powys
i'r gogledd o afonydd
Rhaeadr
a
Thanat
. O hyn ymlaen daeth y wlad hon — a gynhwysai
Maelor Gymraeg
a
Maelor Saesneg
,
Iâl
,
Cynllaith
,
Nanheudwy
, a rhan o
Mochnant
— i'w galw yn
Powys Fadog
o'i chyferbynnu â
Phowys Wenwynwyn
(gw. dan
Gwenwynwyn
). Ar y cyntaf yr oedd
Madog
yn gyfeillgar â
Llywelyn
I
, eithr troes ei gefn ar ei gefnder pan oedd ffawd hwnnw yn bur isel yn
1211
. Parhaodd i gadw draw wedi i
Lywelyn
ailffurfio'r gynghreiriaeth
Gymreig
yn
1212
ac ystyrid ef fel un o gynghreiriaid cydnabyddedig y
brenin
John
, yn derbyn tâl ganddo. Erbyn
1215
, fodd bynnag, fe'i ceir yn gadarn o blaid
Llywelyn
a pharhaodd felly hyd y diwedd. Wedi ei farw ef yn
1236
, amharwyd ar undod
Powys Fadog
gan y rhannu a fu cydrhwng ei bum mab —
Gruffydd Maelor
II
[q.v.]
,
Gruffydd Iâl
,
Maredudd
,
Howel
, a
Madog Fychan
. Claddwyd ef yn
abaty Glyn y Groes
, a sefydlasai ef ei hun — mynachlog ddiwethaf
Urdd y Sistersiaid
yng
Nghymru
.
Awdur:
Yr Athro Thomas Jones Pierce, M.A., F.S.A., (1905-1964),
Aberystwyth