LEWIS
,
THOMAS
(
1859
-
1929
;
D.W.B.
, 1140),
cenhadwr gyda'r Bedyddwyr
yn y
Cameroons
a'r
Congo
;
g. ger
Hendy-gwyn
,
13 Hyd. 1859
, yn fab i
William
Lewis
,
gof
a
Bedyddiwr
selog. Yn
1871
bedyddiwyd ef a'i dderbyn yn aelod o
Nazareth, Eglwys y
Bedyddwyr
,
Hendy-gwyn
. Am beth amser, bu'n
gweithio yn efail ei dad
, ond enynnwyd ynddo sêl genhadol wedi clywed am hanes
William
Carey
, a chymhellwyd ef i ddechrau
pregethu
. Bu'n ddisgybl i'r
Parch.
John
Evans
yn
ysgol ramadeg Sanclêr
, ac yn
1880
aeth i
Goleg y Bedyddwyr
yn
Hwlffordd
. Derbyniwyd ef gan
Gymdeithas Genhadol y Bedyddwyr
, ac yn
Chwef. 1883
hwyliodd i
Affrica
a dechrau ar gyfnod maith o wasanaeth llafurus a llawn peryglon dros bobl y cyfandir hwnnw. O'r
Cameroons
aeth i'r
Congo
, ac yno daeth yn
arweinydd mewn tri digwyddiad hanesyddol yn natblygiad y genhadaeth
yno —
cychwyn eglwys
yn
San Salvadore
(y gyntaf yn y
Congo
), sefydlu'r gwaith yn
Kibokolo
, ac agor yr
United Training Institute
yn
Kimpese
(ac ef yn
brifathro
cyntaf). Treuliodd ei 14 blynedd olaf fel
cynrychiolydd Cymraeg
Cymdeithas Genhadol y Bedyddwyr
. Yn ystod y cyfnod hwn yr oedd hefyd yn
gadeirydd y pwyllgor
arbennig a ddiwygiodd
Feibl y Congo
. Gorffennwyd y gwaith hwn ar ôl deng mlynedd o lafur a chyhoeddwyd ef gan y
Gymdeithas Feiblaidd
. Priododd
Thomas
Lewis
dair gwaith. Bu f. yn
Llundain
5 Rhag 1929
, a chladdwyd ef yn
New Southgate
.
Llyfryddiaeth:
-
Ei hunangofiant,
These Seventy Years (1883-1923)
,
Llundain, 1931
,
1931
, a gyhoeddwyd gan wasg Carey-Kingsgate;
- gwybodaeth bersonol.
Awdur:
Y Parch. Edward William Price Evans, M.A., (1887-1972),
Pontypŵl