Y Bywgraffiadur Cymreig


A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



KNIGHT , WILLIAM BRUCE ( Bywg. , 504)

Yn y 5ed llinell ar ôl ‘ Aberdar ’ ychwaneger ‘a brawd i John Bruce Pryce ’ (gw. o dan Bruce , Henry Austin ( Bywg. , 49) .

Atodiadau a chywiriadau:

KNIGHT , WILLIAM BRUCE ( 1785 - 1845 ), clerigwr, gweinydd, ac ysgolhaig Cymraeg ;

g. 24 Rhagfyr 1785 yn Braunton , Dyfnaint , ail fab John Knight a Margaret , merch William Bruce , Duffryn , Aberdâr . (Ar ochr ei fam yr oedd yn ŵyr i William Bruce , Llanbleddian , a Jane , ŵyres Syr Thomas Lewis , Llanishen .) Pan oedd y mab yn ieuanc symudodd ei rieni i Lanbleddian ac addysgwyd ef yn ysgol ramadeg y Bont-faen cyn iddo fynd i ysgol Sherborne ac wedyn i Goleg Exeter , Rhydychen (ymaelodi 5 Mai 1803 , B.A. 1807 , M.A. 1811 ). Bu'n gurad Llanishen , ac am ddwy flynedd yn gurad i Dr. Lisle , ficer S. Ffagan , gan wasnaethu capel Llanilltern yn y plwyf hwnnw. Yn ystod y cyfnod hwn bu'n astudio Cymraeg a Hebraeg . Yn 1815 rhoddwyd bywoliaeth Llantrithyd iddo gan Syr John Aubrey . Ddwy flynedd yn ddiweddarach rhoes ymddiriedolwyr C. R. M. Talbot fywoliaeth Margam iddo ynghyd â rheithoraeth Llandough-juxta-Cowbridge a S. Mary's Church , Gyda chymorth curad bu'n gwasnaethu y rhai hyn o 1817 hyd 1843 , gan fyw yn yr hen ficerdy, Tynycaeau . Priododd Maria Elinor Traherne , S. Hilary .

Yn 1843 symudodd i Landaf i fod yn archddiacon Morgannwg , a dyfod yn ddeon Llandaf yr un flwyddyn. Bu f. ar 8 Awst 1845 a chladdwyd ef o flaen yr allor yn y ‘ lady chapel ’ yn eglwys gadeiriol Llandaf .

Y mae i Knight bwysigrwydd fel ysgolhaig , Eglwyswr , a gweinydd . Yn y ddadl ynglŷn ag orgraff yr iaith Gymraeg a fu yn nechrau'r 19eg g. , yr oedd Knight ar ochr traddodiad ac felly'n gwrthwynebu John Jones (‘ Tegid ’) [q.v.] a fynnai fabwysiadu dull newydd. Cyhoeddodd Remarks Historical and Philological on the Welsh Language a A Critical Review of John Jones' Reply . Iddo ef y rhoddir ‘ the chief credit of saving the Welsh Bible from the vandalism of Pughe 's followers. ’ Y mae iddo'r clod hefyd (gyda thri chaplan arholi y tair esgobaeth arall) am fersiwn ddiwygiedig y Llyfr Gweddi Gyffredin , 1841 .

Knight ydoedd clerigwr pennaf esgobaeth Llandaf mewn cyfnod pan na cheid esgobion trigiannol neu a oedd yn gwbl drigiannol. Cafodd ei ddewis, gan wahanol esgobion, yn ganon arholi , yn ganghellor yr esgobaeth a'r eglwys gadeiriol , a phan adnewyddwyd swydd deon gan y Senedd (3 a 4 Victoria) ef a ddaeth yn ddeon cyntaf Llandaf ar ôl i'r lle fod yn wag am saith canrif.

Yr oedd yn ddylanwadol hefyd fel gweinyddwr . Yn rhinwedd ei swydd fel caplan arholi yr oedd yn gyfrifol am ddewis a threfnu i addysgu ac arholi ymgeiswyr am urddau eglwysig ; yn y cyfnod hwn, pan nad oedd esgobion trigiannol, ordeinid ymgeiswyr Llandaf mewn esgobaethau eraill dan gennad (‘ Letters Dimissory ’). Yr oedd gofal yr esgobaeth yn gyffredinol arno; ymwelai fel archddiacon yn rheolaidd, a thrwy hynny yr oedd yn gyfrifol i raddau helaeth am bolisi'r esgobaeth. Cafodd yr esgob Coplestone ef yn gymorth gwerthfawr iddo. Yr oedd yn weithgar gyda llu o gymdeithasau — y S.P.C.K. , y ‘ Church Enlargement Society ,’ y ‘ Widows and Orphans' Society ,’ etc. Cymerai ddiddordeb mawr mewn addysg ac eisteddfodau . Yr oedd ei gartref yn fath o dŷ busnes lle y gellid cael llyfrau a thraethodau eglwysig, y Llyfr Gweddi Gyffredin , etc. Yr oedd ei ddiddordeb yn ddwfn mewn adeiladu eglwysi ; ef ei hunan a drefnodd i adeiladu eglwys Holy Cross , Margam , yn 1827 . Pan ddaeth yn ddeon Llandaf atgyweiriodd y Lady Chapel a chasglodd £20,000 ar gyfer gwneuthur ychwaneg o waith atgyweirio.

Ffynonellau:

  • A. O. Evans , A Chapter in the History of the Welsh Book of Common Prayer; or, the letters which were written preparatory to the revised edition of 1841. Annotated, with biographical sketches , Bangor, 1922 , 1922 ;
  • Foster , Alumni Oxonienses ;
  • Registrum Collegii exoniensis Register of the rectors, fellows, and other members on the foundation of Exeter college, Oxford. With a history of the college and illustrative documents , Rhydychen, 1894 ;
  • The Ecclesiastical Gazette ;
  • A. Ollivant , Some account of the condition of the fabric of Llandaff Cathedral from 1575 to its reopening in 1857 , Llundain, 1857 ;
  • Llandaff MSS.;
  • Memoirs of Dean Conybeare ;
  • letters of Bp. Coplestone to W.B.K. (Llandaff MSS).

Awdur:

Yr Archddiacon Lawrence Thomas, D.D., (1889-1960), Aberafan

Blwyddyn Cyhoeddi: 1970