Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JONES , DAVID OWEN ( 1856 - 1903 ; D.W.B. , 1131-2), gweinidog Wesleaidd ac awdur ; g. 18 Chwef. 1856 , ym Mhenmachno , yn fab i Owen a Jane Jones . Hanai o deulu Wesleaidd . Saer maen oedd ei dad i gychwyn ond cododd i fod yn llwyddiannus ei amgylchiadau a chafodd y mab fynd i ysgol ramadeg Llanrwst ac oddi yno i Grove Park , Wrecsam . Treuliodd ei flynyddoedd cyntaf yn Llugallt y tu allan i Benmachno gyda'i daid a'i nain. Anfonwyd ef i brif swyddfa banc y N. & S.W. yn Lerpwl ac ar ôl ei dymor paratoawl yno daeth i'r Drefnewydd , sir Drefaldwyn . Dywedir iddo ddechrau cyfansoddi pregethau pan yn 15 oed, eithr wedi dod i'r Drefnewydd y dechreuodd bregethu , a hynny gyda'r Annibynwyr i gychwyn pan yn 18 oed. Yna trodd yn ôl at y Wesleaid , ac yn 1874 cafodd alwad fel pregethwr i'r Borth , Sir Aberteifi . Gorffennodd ei dymor prawf yng nghylchdeithiau Llanfyllin , Llanfaircaereinion a Bangor , a chafodd ei ordeinio yn 1879 ( 1875 yn ôl Asaph ). Yn ystod yr un flwyddyn pr. â Jane Jones , merch John P. Jones , Llanfairfechan , a bu iddynt 3 o blant. Bu'n gweinidogaethu yn — Caerwys ( 1879 ); Penmachno ( 1880 ); Bethesda ( 1883 ); Birkenhead ( 1885 ); Manceinion ( 1888 ); Lerpwl ( 1891 ); Llanrhaiadr-ym-Mochnant ( 1894 ); Manceinion ( 1897 ): Lerpwl ( 1899 ); Manceinion ( 1902 ), a threuliodd 15 mlynedd mewn dwy gylchdaith. Yr oedd yn gymeriad boneddigaidd a phwyllog, a chyfrifid ef yn un o brif bregethwyr ei enwad. Bu'n olygydd Y Winllan am gyfnod. Ysgrifennodd lawer o erthyglau i gyfnodolion ei enwad — Y Mynegydd , Y Geninen , Yr Hysbysydd , ac i'r wasg. Cyhoeddodd hefyd Esboniad ar Efengyl Marc yn 1902 . Daeth i Lanfairfechan am flwyddyn o seibiant oherwydd afiechyd a bu f. yno 7 Awst 1903 yn 47 oed, a chladdwyd ef yno.

Llyfryddiaeth:

  • W. O. Evans (gol.): Cyfrol Goffa y Parchedig D. O. Jones yn cynwys ei gofiant a nifer o'i bregethau , Bangor, 1904 ;
  • Eminent Welshmen , 1908 ;
  • Yr Eurgrawn Wesleyaidd , Dolgellau 1903 , 352.

Awdur:

Miss Margaret Beatrice Davies, M.B.E., Aberystwyth