JONES
,
OWEN
(
1825
-
1900
;
D.W.B.
, 1136),
clerigwr a cherddor
;
g. yn
1825
ym
Mhontruffydd
,
Bodfari
,
sir Ddinbych
, ond pan oedd yn faban, symudodd ei rieni,
Joseph
(bu f.
1865
), a
Sarah
Jones
i
Ryd Orddwy
,
Y Rhyl
. Yn
1849
aeth i
S. Bees
, ac yn
1851
ordeiniwyd ef a'i drwyddedi i
Altrincham
. Aeth oddi yno yn
1853
i
Ysgeifiog
fel
curad
i
Rowland
Williams
,
yr hynaf
(
Bywg.
,
1005a)
. Yn ddiweddarach (
1855-7
) bu'n
gurad
parhaol
Capel Garmon
, ond yn
1857
penodwyd ef yn
ficer
Pentrefoelas
, lle y bu hyd ei wneud yn
ficer
Bodelwyddan
yn
1892
. Yn
1895
rhoddwyd iddo
brebend
y
Faenol
, h.y.,
cantoraeth Llanelwy
. Er iddo
gyhoeddi anthemau
, credai nad oedd y math o gerddoriaeth a geid mewn eglwysi cadeiriol yn gydnaws ag anian y
Cymro
, a gwell oedd ganddo roddi pwyslais ar ganu cynulleidfaol. Yn ystod ei arhosiad ym
Mhentrefoelas
, cyhoeddodd (
Wrecsam
, d.d., un yn
1867
) ddau gasgliad o garolau Nadolig o'i waith ei hun — cynhwysir un o'r carolau yn yr
Oxford Book of Carols
. Cydolygodd ef a
Shadrach
Pryce
(q.v. tan
PRYCE
,
John
,
Bywg.
, 755)
,
Hymnau Hen a Diweddar
(
1869
— deuddeg argraffiad erbyn
1891
), a gynhwysai chwe emyn-dôn gan
Jones
ei hun. ‘
Beuno
’ oedd y mwyaf adnabyddus ohonynt. Yr oedd yn
ustus heddwch
dros
sir Ddinbych
. Bu f.
13/14 Medi 1900
, a chladdwyd ef ym
Mhentrefoelas
. Buasai ei wraig a thri o'i chwe phlentyn farw o'i flaen.
Llyfryddiaeth:
-
Crockford's Clerical Directory
, 1858
ff
;
-
Thomas
,
A History of the Diocese of St.
Asaph
, i, 336;
-
Baner ac Amserau Cymru
,
19 Medi 1900
;
-
Y Geninen
,
Mawrth 1901
, 49-51;
-
Owen Williams
,
Awduron Sir
Ddinbych a'u gweithiauWilliams, Owen . Llyfryddiaeth Sir Ddinbych,
rhan 3, 1937
, 89;
-
R. D. Griffith
,
Hanes canu cynulleidfaol Cymru
,
Caerdydd, 1948
, 97, 176.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D.,
F.S.A., (1881-1969), Bangor