Atodiadau a chywiriadau:
JONES
,
LEWIS
(
1808
-
1854
),
gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a llenor
;
g. ym
Melin Cae'r Berllan
,
Llanfihangel-y-pennant
(
Meirion
). Aeth i'r
Bala
yn ifanc, yn
rhwymwr llyfrau
i
Robert
Saunderson
[q.v.]
. Dechreuodd
bregethu
, ac aeth i ysgol
John
Hughes
(
1796
-
1860
) [q.v.]
yn
Wrecsam
; ordeiniwyd ef yn
1838
. Yn nhŷ-capel
Llwyneinion
yr oedd yn byw, ac yno y bu f.
29 Mawrth 1854
, yn 46 oed; claddwyd ym mynwent
capel Llidiardau
(
Waun y Bala
). Yr oedd yn sgrifennwr diwyd. Cyhoeddodd yn
1841
gofiant i'r
Parch.
Richard
Jones
o'r
Bala
(
1784
-
1840
; gw. arno
Enw. F.
a
W.
Williams
,
Methodistiaeth Dwyrain Meirionydd
, 577-9); heblaw hwn, y mae llyfrau eraill ganddo. Sgrifennai'n dda i'r
Traethodydd
; ac efe'n bennaf a oedd yn gyfrifol am y misolyn bychan
Y Geiniogwerth
(
1847-51
) — yn hwnnw'r ymddangosodd ei ‘
Lythyrau Hen Ŵr Mynyddig
.’ Dilynwyd y
Geiniogwerth
gan
Y Methodist
(
1851
), ond ni bu hwnnw'n llwyddiant.
Llyfryddiaeth:
-
Y Drysorfa
,
1854
, 173;
-
Y Goleuad
,
18 Medi 1875
(gan y
Dr. Lewis Edwards
);
-
T. M. Jones
,
Llenyddiaeth fy Ngwlad
, 1893
100;
-
Y Seren
y Bala,
1 Tachwedd 1952
.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D.,
F.S.A., (1881-1969), Bangor