Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



JONES , JENKIN ( Bywg. , 443) ‘Tua diwedd 1729 neu ddechrau 1730 , cyhoeddodd Jenkin Jones — yn ôl pob tebyg bamffledyn … Cyfrif Cywir o'r Pechod Gwreiddiol ’. Felly y dywed Gwili , Hanfod Duw a Pherson Crist , 36. Gwell darllen, felly, ‘a briodolir’ fel o dan James Lewis ( Bywg. , 519) .

Atodiadau a chywiriadau:

JONES , JENKIN ( 1700? - 1742 ), gweinidog Arminaidd ; g. yn Trafle , Llanwenog , yn 1700(?) . Symudodd y teulu wedyn i Fryngranod ar bwys, a heb fod ymhell oddi wrth ddylanwad rhyddfrydig Crugymaen . Yn llyfr eglwys y Cilgwyn ceir y cofnod: ‘ Jenkin Jones of Llwynrhydowen ; ord. Apr 1726 , obiit 1742 . ’ Ni wyddom ddim o'i hanes bore. Yr oedd yng Ngholeg Caerfyrddin o 1720 i 1722 . Aelod ydoedd o gapel Annibynnol Pantycreuddyn , meddir, a hwyrach ei fod yn teimlo ysbryd rhyddfrydig Crugymaen a Chaerfyrddin yn cael ei lethu yma. Bu rhwyg yn y gynulleidfa, a dechreuodd yntau bregethu y syniadau newydd neu Arminiaeth yn y Wernhir neu Penybanc tua 1726 . Yn 1733 cododd gapel Llwynrhydowen , a dyma'r capel Arminaidd cyntaf yng Nghymru . Cyhoeddodd o leiaf ddau lyfr: Cyfrif Cywir o'r Pechod Gwreiddiol , 1729 , a Catechismau i'w dysgu gan blant , 1732 , a dau gyfieithiad o'r Saesneg , Llun Agrippa , 1723 , a Dydd y Farn Fawr , 1727 . Cyhoeddwyd wedi'i farw ei Hymnau , 1768 . Apostol Arminiaeth ydoedd, a'i brif waith oedd gosod y Beibl yn uwch na chredo. Nithiodd yr hen syniadau gan droi arnynt olau rheswm. Cyn ei farw yr oedd chwech neu saith o weinidogion ac eglwysi wedi derbyn y syniadau newydd. Bu f. yn 1742 yn ŵr ifanc 42 mlwydd oed, a chladdwyd ef 30 Mehefin 1742 ym mynwent eglwys Llandysul .

Llyfryddiaeth:

  • Lloyd Letters (1754–96) , 1908 , lx-xvl;
  • Hanes Plwyf Llandyssul , 1896 , 158-61;
  • Yr Ymofynnydd , Chwefror 1932 , 21-9;
  • Griffith Jones (Glan Menai) , Enwogion Sir Aberteifi , 1868 , 1868 ;
  • Enwogion Ceredigion , 1869 , 1869 ;
  • Y Drysorfa Gynnulleidfaol , Abertawe, 1843-1851 , 1850 , 231;
  • Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru , ii, 95;
  • D. Peter , Hanes Crefydd yng Nghymru, o'r amser y daeth y Cymry i Ynys Brydain hyd yr amser presennol , Caerfyrddin, 1816 , 619.

Awdur:

Y Parch. Thomas Oswald Williams, M.A., (1888-1965), Llanbedr-pont-Steffan