JONES, HUGH ('Huw Myfyr '; 1845 - 1891), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a bardd

Enw: Hugh Jones
Ffugenw: Huw Myfyr
Dyddiad geni: 1845
Dyddiad marw: 1891
Priod: Margaret Jones (née Lewis)
Rhiant: Elinor Jones
Rhiant: Evan Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a bardd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins

mab Evan ac Elinor Jones o Lanfihangel Glyn Myfyr, sir Ddinbych. Bu'n brentis i feddyg yng Ngherrig-y-drudion, ond penderfynodd ymbaratoi ar gyfer y weinidogaeth, ac aeth i goleg y Methodistiaid Calfinaidd yn y Bala yn 1867. Yn 1871 cafodd alwad i nifer o eglwysi yn ac yn agos i Lanrhaeadr-ym-Mochnant (ordeiniwyd ef yn 1873), ac yno y priododd Margaret Lewis. Symudodd yn 1878 i Lanllechid, Sir Gaernarfon, ac oddi yno yn 1890 i Ddinorwig. Ystormus fu ei weinidogaeth yno, oherwydd, er ei fod yn ŵr galluog, yr oedd o dymer anwadal. Bu farw yn sydyn 9 Rhagfyr 1891, yn 46 oed. Ymddangosodd bywgraffiad ohono (gan David Williams), gyda detholiad o'i bregethau, yn 1893. Yr oedd yn fardd o beth bri. Cyhoeddodd sallwyr mydryddol, Salmydd y Cyssegr, yn 1885, a chyfrifid nifer o'i farwnadau, yn enwedig y rhai i'w athrawon, y Dr. Lewis Edwards a'r Dr. John Parry, yn rhai da.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.