JONES, THOMAS GRIFFITHS ('Cyffin '; 1834 - 1884), hynafiaethydd

Enw: Thomas Griffiths Jones
Ffugenw: Cyffin
Dyddiad geni: 1834
Dyddiad marw: 1884
Priod: Mary Anna Jones (née Pryce)
Rhiant: Elizabeth Jones
Rhiant: David Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant
Awdur: Enid Pierce Roberts

Ganwyd ef yn Llansanffraid, Sir Drefaldwyn, 12 Ionawr 1834, yn fab i David Jones, siopwr, ac Elizabeth ei wraig. Bu farw'i dad pan oedd ef yn 14 oed a chadwodd yntau'r siop weddill ei oes. Yno y bu farw 10 Medi 1884.

Ychydig o ysgol a gafodd am ei fod yn blentyn afiach, ond ymrôdd i'w addysgu ei hun trwy ddarllen ac ysgrifennu llawer iawn. Casglai lyfrau a llawysgrifau ac ymddiddorai mewn llên gwerin, priod-ddulliau llafar gwlad, hen draddodiadau a hynafiaethau Cymru, ac yn arbennig rhai ei ardal ei hun. Dywedir iddo gasglu gwybodaeth helaeth am hanes Crynwyr Sir Drefaldwyn. Ysgrifennai'n fynych i'r cylchgronau Cymreig; ambell dro defnyddiai'r ffug-enw Cyffin, ac yn ddiweddarach Gypt a Borderer. Yr oedd yn ganwr penillion pur fedrus. Llwyddodd i sefydlu Cymdeithas Cymreigyddion Powys, yn haf 1861, ac ef oedd y llywydd cyntaf. Pan sefydlwyd y Powysland Club daeth yn aelod gweithgar gan ysgrifennu'n aml i'r Mont. Coll. Yr oedd yn Annibynnwr selog ac yn Rhyddfrydwr.

Priododd Mary Anna, merch Samuel Pryce, Gwern-y-pant, 7 Chwefror 1871, a bu iddynt 6 o blant.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.