JONES, EDWARD (bu farw 1586), cynllwynwr

Enw: Edward Jones
Dyddiad marw: 1586
Rhiant: Edward Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cynllwynwr
Maes gweithgaredd: Gwrthryfelwyr; Milwrol; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Arthur Herbert Dodd

mab hynaf Edward Jones o Blas Cadwgan, sir Ddinbych, a Cornhill, Llundain (teiliwr i Fari Tudur a meistr y wardrob yn llys Elisabeth I), a oedd yn fab i John ap David ap Robert, un o ddisgynyddion Cynwrig ap Rhiwallon. Bu Edward Jones, yr hynaf (siryf sir Ddinbych yn 1576), farw yng Nghadwgan yn 1581, gan adael symiau sylweddol o arian i'w berthnasau yng ngogledd Cymru ac i sefydlu ysgol ramadeg yn Wrecsam. Fodd bynnag, ni chyflawnwyd yr amodau ynglŷn â'r rhodd i sefydlu'r ysgol. Cymeradwyodd ei fab (a oedd o'r un enw), i sylw ei noddwr, Iarll Leicester. Yn Llundain daeth Edward Jones, yr ieuaf, yn un o gyfeillion ac edmygwyr Thomas Salusbury o Lewenni, gward Leicester, a than ddylanwad Salusbury trodd ei gefn ar Brotestaniaeth. Gyda'i gyfaill trodd hefyd yn erbyn Leicester - fel amddiffynnydd Protestaniaeth a 'gormeswr' gogledd Cymru, - a denwyd ef i ymuno â chynllwyn Babington o blaid Mari, brenhines y Sgotiaid. Cyhuddwyd y ddau gyfaill o drafod, ar 13 Mehefin 1586, gynlluniau am gyhoeddi gwrthryfel o blaid Mari yn sir Ddinbych, ac ar ôl cipio Babington ar 14 Awst, ffodd y ddau i sir Gaerlleon lle y daliwyd hwy a'u dwyn i Lundain i sefyll eu prawf (neu hwyrach i Salusbury ddianc ar ei ben ei hun ac i Jones gael ei ddal yn Llundain). Cyffesodd Jones ei ffydd a chyfaddefodd ei fod wedi cuddio brad ei gyfaill a'i gynorthwyo i ddianc. Ond dywedodd ei fod wedi ceisio perswadio Salusbury i beidio â chynllwynio, a datganodd ei deyrngarwch i'r frenhines. Er hynny dienyddiwyd ef am fradwriaeth ar Tower Hill, 21 Medi 1586, ac aeth ei stad, gan gynnwys Plas Cadwgan, yn fforffed i'r goron.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.