JONES, DAVID (1834 - 1890), Wallington, Surrey, hanesydd lleol ac achydd

Enw: David Jones
Dyddiad geni: 1834
Dyddiad marw: 1890
Rhiant: Hannah Jones
Rhiant: Thomas Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hanesydd lleol ac achydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant
Awdur: Thomas James Hopkins

Ganwyd 28 Mai 1834 yn Llanfleiddan, Sir Forgannwg, yn unig blentyn i Thomas Jones, bragwr, a Hannah, ei wraig. Addysgwyd ef mewn ysgol breifat yn Y Bont-faen. Ar ôl gadael Llanfleiddan bu'n byw mewn llawer lle yn Lloegr, ond yn 1875 ymsefydlodd yn derfynol yn Wallington. O'r adeg honno hyd 1879 ymddengys iddo ddal swydd gyfrifol fel clerc gyda chwmni masnachol Campbell a Shearer yn Llundain. Erbyn diwedd y flwyddyn 1879 yr oedd mewn sefyllfa i ymddeol, ac o hynny ymlaen treuliodd ymron y cyfan o'i amser yn gwneud ymchwil mewn hanes. Bu farw'n ddibriod 11 Gorffennaf 1890, a chladdwyd ef ym medd ei fam yn Beddington, Surrey.

Oherwydd ehangder a thrylwyredd ei ymchwiliadau cyfrifir David Jones yn un o'n hawdurdodau pennaf ar hanes Morgannwg yn y cyfnod wedi'r Oesoedd Canol, er na chyhoeddodd ddim ond ychydig erthyglau mewn cylchgronau a phapurau newyddion. Wedi iddo ymddeol bu'n gweithio'n ddyfal mewn llyfrgelloedd a chanolfannau cadw cofysgrifau yn Llundain, ac yn ystod ei ymweliadau ysbeidiol â Morgannwg gwnaeth grynodebau o gannoedd o ewyllysiau esgobaeth Llandaf a lluniau o'r holl eglwysi plwyfol a llawer o adeiladau eraill o ddiddordeb hanesyddol. Hefyd copïodd yr arysgrifau hynaf yn yr eglwysi a'r mynwentydd a darnau helaeth o gofnodion fel cofrestri plwyfol a'r dyddiadur eithriadol a gadwyd gan yr ysgolfeistr William Thomas (1727 - 1795). Ychwanegir yn fawr at werth ei grynodebau a'i gopïau gan y mynegion manwl a baratôdd. Weithiau y mae ei gasgliadau yn ymwneud ag ardal ehangach na Sir Forgannwg. Yn Somerset House, e.e., gwnaeth grynodebau o holl ewyllysiau Cymru hyd 1650 ac o holl ewyllysiau de Cymru hyd 1700. Yn unol a'i ewyllys ef ei hun daeth ei gasgliadau Cymreig i feddiant Illtyd B. Nicholl, The Ham, Llanilltud Fawr, a hanner canrif yn ddiweddarach trosglwyddodd Nicholl y rhan fwyaf ohonynt i lyfrgell dinas Caerdydd, lle y cedwir hefyd y nifer fawr o lythyrau a ddanfonodd David Jones at T. C. Evans (Cadrawd). Ceir rhan lai gyda llawysgrifau Llan-maes yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.