ITHEL ap RHOTPERT neu ROBERT
(
fl.
1357-82
;
D.W.B.
, 1130),
archddiacon
,
a chyfaill a
noddwr
Iolo Goch
(
Bywg.
, 391-2)
, a gyflwynodd ddau gywydd gofyn iddo (gw.
I.G.E.
, arg. cyntaf, 55-61, ail arg., 49-55), ac a'i coffhaodd mewn marwnad (gw.
C.
Ashton
,
Gweithiau Iolo Goch
,
1896
, 344-53).
Coed-y-mynydd
ym mhlwyf
Ysgeifiog
,
sir y Fflint
, oedd cartref teuluol
Ithel
. Yr oedd o dras da, a cheir gan
Ashton
(op. cit., 267, 325-6) fanylion am ei ach a godwyd o
Dwnn
a
Powys Fadog
. Hannai, o'r ddwy ochr, o'r teulu a ddaeth yn ddiweddarach i ddwyn y cyfenw
Mostyn
(
Bywg.
, 633-5)
. Yr oedd gan ei dad,
Rhotpert ap Iorwerth ap Rhirid
, frawd, sef
Madog
neu ‘
Matthew de
Englefield
’, a oedd yn
esgob Bangor
,
1327-57
(
Browne
Willis
,
Bangor
, 74-5;
Le Neve
,
Fasti
, i, 99). Yr oedd ei fam,
Adles
, yn gyfnither i
Ddafydd ap Bleddyn
(
Bywg.
, 85)
,
esgob Llanelwy
. Cyfeirir at
Ithel
fel
B.C.L.
, mewn un cofnod, ond ni wyddys ddim amdano cyn
1357
pan etholodd
cabidwl Bangor
ef yn
esgob
i ddilyn ei ewythr. Gwrthododd y
pab
gadarnhau'r etholiad, a gŵr arall a benodwyd. Yr oedd
Ithel
yn
ganon
ym
Mangor
ac yn dal rhan o fywoliaeth
Llanynys
yn
nyffryn Clwyd
. Yn
1375
danfonodd gais at y
pab
am
ganoniaeth
yn
Llanelwy
i'w dal gyda'i swyddi ym
Mangor
, a bu'r cais yn llwyddiannus (
Thomas
,
S. Asaph
, i, 247). Yn yr un flwyddyn disgrifir ef fel
archddiacon
Llanelwy
(
Le Neve
, i, 84). Gan fod olynydd iddo yn ymddangos yn
1382
, hwyrach mai yn y flwyddyn honno y bu f., er fod
Pennant
(
Whiteford and Holywell
, 119, 308) yn dweud ei fod wedi byw hyd
1393
. Dywedir iddo gael ei gladdu yn
Ninas Basing
(
Basingwerk
). Cyfeiria
Iolo Goch
ato fel ‘archddiacon deugor’ (
archddiacon
a berthynai i ddau gabidwl), a dywed i'r
noddwr
a'r
bardd
fod yn ddisgyblion i'r un athro pan yn ieuanc. Daeth dibyniaeth
Iolo
ar
Ithel
yn beth adnabyddus iawn ymysg y
beirdd
, a chyfeiria
Tudur Aled
(
Bywg.
, 925-6)
ato deirgwaith (
G.T.A.
, i, 115 a 182, ii, 469). Gw. hefyd ‘
Kywydd Barnad Ithel ap Rotbert
’ gan
Saunders
Lewis
yn
Ysgrifau Beirniadol
, III,
1967
.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D.,
F.S.A., (1881-1969), Bangor