Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



IORWERTH ap MADOG ( fl. 1240?-68 ; D.W.B., 1130), gŵr cyfraith a enwir yn fynych mewn amryw lawysgrifau o ‘Ddull Gwynedd’ y cyfreithiau Cymreig . Mewn un llawysgrif gelwir ef yn fwy pendant yn Iorwerth ap Madog ap Rhahawd ’, a gwnai hyn ef yn frawd i'r bardd Einion ap Madog ( fl. c. 1237 ; Bywg. , 189) , perthynas a dderbynir gan Syr John Lloyd , Hist. W. , 355. Byddai felly yn un o ddisgynyddion Cilmin Droed-ddu ( 9ed g. ), ac yn perthyn i'r teulu y daethpwyd i'w adnabod yn ddiweddarach fel teulu Glyn , Glynllifon , sir Gaernarfon ( Bywg. , 262 a 263-4) , teulu a fagodd gyfreithwyr o gryn fri mewn cyfnod diweddarach. Ceir ymchwiliad manwl i gysylltiadau teuluol Iorwerth yn Cylch. Ll.G.C. (gw. cyfeiriad isod). Hyd yn oed cyn amser Iorwerth buasai'r teulu yn amlwg ym myd y gyfraith a gweinyddiaeth. E.e. bu cefnder tadcu Iorwerth , sef CYFNERTH ( fl . c. 1210 ) yn gyfrifol am lunio llyfr cyfraith a gysylltid yn wreiddiol â Gogledd Cymru , ond mewn argraffiadau diweddarach â De Cymru . Yn ôl pob tebyg, gor-ewythr Iorwerth , YSTRWYTH (fl. 1204-22 ; gw. Lloyd , Hist. W. , 622, n. 55 a mynegai), oedd y clerigwr o'r enw hwnnw a wasanaethai fel ysgrifennydd a chennad i Lywelyn Fawr . Credir mai Iorwerth a roddodd ei ffurf derfynol i ‘ Ddull Gwynedd ’, y gorau'i drefniant a'r mwyaf cyflawn o'r Dulliau. Y mae'n amlwg y cyfrifid ef yn ei ddydd yn awdurdod uchel ar y gyfraith , ond ni ellir penderfynu'n fanwl pa beth yn union a ychwanegodd ef at gorff y gyfraith. Erthygl Dafydd Jenkins , ‘ Iorwerth ap Madog ’, yn Cylch. Ll.G.C. , viii, 164-70, yw ffynhonnell y cyfan ymron o'r nodyn hwn. Ceir disgrifiad byr a chryno o'r gwahanol fersiynau a llawysgrifau'r Cyfreithiau yn Lloyd , Hist. W. , 354-6.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor