Ni bu erioed yn gryf ei iechyd ac yn 1908 sylweddolwyd mai'r darfodedigaeth oedd yn peri hynny. Yn ystod y blynyddoedd dilynol treuliodd lawer o amser gydag arlunwyr a chyfeillion eraill ar y cyfandir yn ceisio adfer ei iechyd. Bu yn ne Ffrainc am beth amser yn 1908 , gyda John Fothergill , a'r adeg honno y dechreuodd beintio o ddifrif. Rhwng 1909 a 1913 bu am ysbaid ym Mharis , ac yna yn Collioure ac Ysbaen gyda Derwent Lees , ac ym Marseilles gydag Augustus John . Yr oedd John ac yntau'n gyfeillion calon a theithiodd y ddau lawer gyda'i gilydd yng ngogledd Cymru , yn enwedig yn ardal yr Arennig yn Sir Feirionnydd . Ymneilltuodd i Forocco yng nghwmni Trelawnay Dayrell-Reed am gyfnod ond nid oedd yr hinsawdd yno'n dygymod â'i iechyd a dychwelodd i Brighton yn gynnar yn 1914 . Bu farw yn Swanley , swydd Gaint , 27 Awst 1914 , a chladdwyd ef ym mynwent Chislehurst . Symudwyd ei weddillion i fynwent Whitchurch ger Tavistock , 6 Ion. 1934 .
Dyfrlliw oedd ei hoff gyfrwng ar y dechrau, ond cyn bo hir trodd at waith olew, a chanolbwyntio ar olygfeydd natur . Y mae'r defnydd a wnaeth o liwiau disglair a thanbaid yn nodweddiadol o'i waith, nid yn unig o'i olygfeydd yn Ne Ffrainc ond hyd yn oed o'i ddarluniau o ogledd Cymru . Edmygai gelfyddyd a thechneg Turner , Constable , a John Sell Cotman yn arbennig, ond ychydig o ddylanwad unrhyw artist neu fudiad arall sydd i'w olrhain yn uniongyrchol yn ei waith, a chadwodd ei nodweddion personol ei hun.
Dangoswyd un darlun o'i eiddo yn arddangosfa'r New English Art Club pan oedd ond yn 19 oed, a chynhaliwyd arddangosfa o'i luniau dyfrlliw yn Oriel Chenil yn Llundain yn 1910 . Dangoswyd ei waith yn oriel Tate yn 1921-2 a chynhaliwyd ail arddangosfa goffa o'i waith yn oriel Chenil yn 1923 . Yr un flwyddyn agorwyd cronfa gan awdurdodau'r Llanelly Star , i brynu rhai o'i ddarluniau i'r dref honno. Y mae enghreifftiau o'i waith hefyd yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd , ac yn orielau Tate yn Llundain , Temple Newsam yn Leeds , tref Aberdeen , a dinas Manceinion , ac mewn amryw o gasgliadau cyhoeddus a phreifat eraill.
Miss Megan Ellis, (1906-2001), Aberystwyth