IEUAN LLWYD SIEFFRAI
(fl.
c. 1599-1619
)
Nid felly. G. yn
1575
yn fab ac aer
Sieffrai ab Ieuan Llwyd
,
Dyffryn Ereithlyn
,
Eglwys-bach
,
sir Ddinbych
, o deulu
Llwydiaid
Hafod Unnos
(
Bywg.
, 539)
. Ar
12 Gorff. 1591
, yn eglwys
Llandrillo
,
Meirion
, ef yn 16 oed a hithau ond 11, priododd
Margred
, merch ac unig aeres
Morus ap Siôn ab Elis
o'r
Palau
. Ganwyd iddynt 10 merch a dau fab, rhai yn y
Palau
a rhai yn y
Dyffryn
.
Llofruddiwyd
y mab hynaf,
Sieffrai Llwyd
(
1607
-
1626
) yn
Nôl-y-cletwr
yn
Rhiwedog
, ac aeth yr etifeddiaeth drwy'r ail fab,
Morus
(g.
1619
). Un o'r
uchelwyr llengar
,
hynafiaethydd
,
achydd
,
bardd
oedd
Ieuan Llwyd Sieffrai
. Bu f.
8 Gorff. 1639
, a'i gladdu ym mynwent
Llandderfel
.
Llyfryddiaeth:
-
Archaeologia Cambrensis
,
1885
, 133-6;
-
History of the Princes, the Lords Marcher,
and the Ancient Nobility of Powys Fadog
, VI, 105-8.
Awdur:
Evan David Jones, F.S.A., (1903-87), Aberystwyth