HUGHES, WILLIAM MELOCH (1860 - 1926), arloeswr a llenor

Enw: William Meloch Hughes
Dyddiad geni: 1860
Dyddiad marw: 1926
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arloeswr a llenor
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Teithio
Awdur: Richard Bryn Williams

Ganwyd 9 Ebrill 1860 ym Mhen-sarn, Betws Gwerfyl Goch, ond symudodd y teulu i Felin Meloch ger Llandderfel tua 1868. Addysgwyd ef yn Ysgol Tan Domen yn y Bala, lle bu'n gyd-ddisgybl â Tom Elis, O. M. Edwards, J. Puleston Jones, Mihangel a Llwyd ap Iwan. Dysgodd grefft ffotographydd a symud i'r Drenewydd i ddilyn yr alwedigaeth honno. Dechreuodd bregethu yno gan fwriadu mynd i'r weinidogaeth gyda'r Annibynwyr, ond aeth ei iechyd yn fregus ac ymfudodd i'r Wladfa yn 1881, lle bu'n llwyddiannus fel ysgolfeistr, amaethwr, masnachydd a phregethwr, cyn dychwelyd i Gymru wedi dros 40 mlynedd. Bu farw yn y Rhyl 28 Mawrth 1926, a'i gladdu ym mynwent Brithdir. Cyhoeddwyd ei lyfr Ar Lannau'r Camwy yn 1927, cyfrol sy'n cynnwys ei atgofion personol a llawer o ffeithiau hanesyddol gwerthfawr am y Wladfa rhwng 1880-1920.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.