HORSFALL TURNER
,
ERNEST RICHMOND
(
1870
-
1936
),
ysgolfeistr a hanesydd lleol
;
g.
13 Ion. 1870
yn
Brighouse
, yn fab i
Joseph
Horsfall Turner
, yntau hefyd yn
ysgolfeistr
a
hanesydd lleol
. Addysgwyd ef yn ysgol ei dad a dechreuodd ei yrfa fel
athro
yn yr ysgol honno. Yn ddiweddarach graddiodd ym
Mhrifysgol Llundain
. Bu'n
athro
ym
Mlaenau Ffestiniog
ac ym
Mae Colwyn
, ac yn
1895
penodwyd ef yn
brifathro
ysgol sir Llanidloes
. Dysgodd
Gymraeg
, ac yna dechreuodd
ymddiddori mewn hanes a daearyddiaeth leol
. Ymhlith gweithiau eraill cyhoeddodd
Wanderings in County Cardigan
(d.d.), a
The Municipal History of Llanidloes
,
1908
. Yn y rhain ceir
darluniau pen ac inc
o'i waith ef ei hun, oherwydd yr oedd yn
ddarluniwr
medrus. Yn ddiweddarach yn ei fywyd, yr oedd hefyd yn
arlunydd mewn dyfrlliw
. Wedi iddo ymddeol yn
1932
gwnaeth lawer o ymchwil ynglŷn â hanes y
mudiad Siartaidd
yn
sir Drefaldwyn
, ac y mae ei lawysgrifau yn awr yn
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
. Etholwyd ef yn
aelod o gyngor tref
Llanidloes
yn
1901
, a bu'n
faer y dref
ddwywaith,
1908
a
1927-8
. Yn
1897
priododd
Annie
, merch
J. N.
Crowther
(
Bywg.
, 80)
, a bu iddynt un mab, a fu'n
glerc tref
Aberystwyth
. Bu ei
wraig f. yn
1923
. Bu ef ei hun f. yn
Llanidloes
13 Mawrth 1936
a chladdwyd ef yno.
Llyfryddiaeth:
-
The Montgomeryshire County Times
,
18 Mawrth 1936
;
-
Welsh Secondary Schools Review
,
1930
;
- gwybodaeth gan ei fab.
Awdur:
Edward Ronald Morris, Llanidloes / Llanfyllin