GWGON ap MEURIG (bu farw 871), brenin Ceredigion, a'r olaf o linach Ceredig

Enw: Gwgon ap Meurig
Dyddiad marw: 871
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: brenin Ceredigion, a'r olaf o linach Ceredig
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: David Jenkins

Yn ôl Brut y Tywysogion bu farw trwy foddi yn y flwyddyn 871. Ei chwaer Angharad oedd gwraig Rhodri Mawr. Ar farwolaeth Gwgon rhoddodd y cyswllt teuluol yma esgus digonol i Rodri ymyrryd yn Seisyllwg, y deyrnas a luniwyd dros ganrif yn gynt trwy uno Ceredigion ac Ystrad Tywi.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.