Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



GRIFFITH , THOMAS TAYLOR ( Bywg. , 281) Ychwaneger: yr oedd teulu Griffithiaid Cae Cyriog ( Hafod , Rhiwabon ) yno tua 1450 o leiaf ( Powys Fadog , ii, 184), ond ni raid ymhelaethu ar neb ohonynt cyn John Griffith neu Siôn Gruffydd ( 1654 - 1698 ), achyddwr a herold , a fu f. 31 Hyd. 1698 . Daeth ei lsgr. ef i ddwylo ei ŵyr T. T. Griffith (uchod) ; yn 1910 fe'u rhoddwyd yng nghadwraeth Ll.G.C. , ac yn 1923 daethant yn eiddo iddi — N.L.W. MSS. 7006-10 . Y pwysicaf ohonynt yw ‘ Llyfr Du Basing ’ (gw. dan Gutun Owain ); 7008 yw casgliad John Griffith o achau Gogledd Cymru .

Llyfryddiaeth:

  • Handlist of Manuscripts in the National Library of Wales , 1940 ff X, 230;
  • Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru V, 99.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor

Atodiadau a chywiriadau:

GRIFFITH , THOMAS TAYLOR ( 1795 - 1876 ), meddyg a hynafiaethydd ; g. yn Wrecsam , 11 Rhagfyr 1795 , un o un-plentyn-ar-ddeg (a mab hynaf) Thomas Griffith ( 1753 - 1846 ), meddyg , a gor-ŵyr Siôn Gruffydd , Cae Cyriog , Rhiwabon [q.v.] , achyddwr ac arwyddfardd yr etifeddodd Thomas Taylor Griffith ei lawysgrifau (fe'u dangoswyd ganddo i'r Cambrian Archaeological Association yng nghyfarfod Wrecsam yn 1874 ; y maent yn awr yn y Llyfrgell Genedlaethol ). Cafodd ei addysg yn ysgol Dr. Williams a'r ysgol ramadeg yn Wrecsam ; wedi iddo orffen ei brentisiaeth gyda'i dad aeth i ysbytai Guy a S. Bartholomew , Llundain , wedi hynny i Leeds o dan Hoy ( 1810 ) , ac yna i Paris o dan Puytryne ; daeth yn M.R.C.S. yn 1817 ac yn gymrawd (anrhydeddus) yn 1844 . Dechreuodd fel partner gyda'i dad, c. 1820 ; yn 1826 aeth ar ei gyfrifoldeb ei hun, gan briodi, yr un flwyddyn, ŵyres William Robertson ( 1721 - 1793 ), yr hanesydd Ysgotaidd . Bu'n gweini ar y dywysoges Victoria yn 1832 pan oedd hi yn ymweld â Wynnstay gyda duges Caint . Bu iddo ran bwysig yn sefydlu (1) adran Gogledd Cymru o'r British Medical Association (bu'n llywydd yr adran ddwywaith), ac (2) ysbyty Wrecsam ( 1832 ), lle y mae darlun ohono yn hongian. Bu'n ddiwyd gyda'r gwaith o ymgorffori Wrecsam ( 1849-57 ), a rhoes arian i waddoli cronfa ymddiriedolwyr eithr gwrthododd gael ei ddewis yn faer cyntaf y dref. Yr oedd ef a'i wraig ymhlith arloeswyr addysg rad yn y dref, gan gynorthwyo i gychwyn ysgol i'r tlodion , y ‘ Ragged School ’ ( 1852-81 ) a gwasanaethu fel ei thrysorydd cyntaf. Bu f. 6 Gorffennaf 1876 .

Llyfryddiaeth:

  • Wrexham Advertiser , 8 Gorffennaf 1876 ;
  • Archaeologia Cambrensis , IV, vii, 234;
  • History of the Princes, the Lords Marcher, and the Ancient Nobility of Powys Fadog , ii, 184-7;
  • A. N. Palmer , History of the town of Wrexham its houses, streets, fields, and old families. being the fourth part of "A history of the town and parish of Wrexham" , Wrecsam, 1893 , 1893 , 18, 53, 86, 97-8, 110;
  • C. Dodd , Wrexham Schools and Scholars , Wrecsam, 1924 (Wrexham, 1924 ), 15-8;
  • Border Counties Advertizer , Wrexham Jubilee Souvenir, 1907 ;
  • Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru 7006-10.

Awdur:

Athro Emeritus Arthur Herbert Dodd, M.A., (1891-1975), Bangor