Atodiadau a chywiriadau:
GRIFFITH
,
JOHN
(
fl.1548-87
),
gŵr o'r gyfraith sifil
,
mab (mae'n debyg) i
William
Griffith
(bu f.
1587
),
Plas Mawr
,
Caernarfon
, a
Threfarthen
,
Llanidan
,
sir Fôn
, mab hynaf ail briodas
Syr
William
Griffith
o'r
Penrhyn
.
Margaret
, merch
John Wyn ap Meredith
o
Wydir
, a
modryb y
Syr
John
Wynn
1af
[q.v.]
, oedd ei fam. Gwnaethpwyd ef yn
gymrawd
o
Goleg All Souls
,
Rhydychen
, yn
1548
, cymerodd ei
B.C.L.
yn
1551 (18 Gorffennaf)
, a gradd
doethur
yn
1563 (7 Gorffennaf)
. Yn
1559 (23 Chwefror)
caniataodd y
frenhines
Mari
i
William
Awbrey
[q.v.]
drosglwyddo i
Griffith
ei
gadair ‘Regius’ y gyfraith sifil
yn
Rhydychen
. Cadwodd
Griffith
y swydd hon hyd
1566
; o'r flwyddyn
1561 hyd 1564
yr oedd yn
brifathro
New Inn Hall
yr un pryd. Ar
26 Chwefror 1564
fe'i derbyniwyd yn aelod o
Doctors' Commons
. Etholwyd ef yn
aelod seneddol
dros
fwrdeisdref Caernarfon
yn
1571
a gwasanaethodd fel
siryf sir Gaernarfon
yn
1582-3
a
sir Fôn
yn
1587
. Yr oedd ei frawd iau,
WILLIAM
GRIFFITH
,
LL.D.
, yn
farnwr y Morlys
dros
sir Gaernarfon
ac yn
aelod seneddol
dros
fwrdeisdref Caernarfon
yn
1586
. Y flwyddyn ddilynol bu'n gyfrifol am gychwyn yr ymchwil a lwyddodd ymhen ychydig i ddarganfod y twr o
Babyddion
a oedd yn cyfarfod yn
ogof Rhiwledyn
yn y
Creuddyn
a chanddynt eu gwasg argraffu eu hunain.
Llyfryddiaeth:
-
J. E. Griffith
,
Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire
Families
, 1914
, 125, 184-5;
-
Wood
,
Athenae Oxonienses…to which are added The
Fasti
, 1813–20
, i, 161;
-
Rymer
,
Foedera conventiones, litteræ, et
cujuscunque generis acta publica, inter reges Angliæ et
alios quosuis imperatores, reges, pontifices, principes,
vel communitates, ab ingressu Gulielmi I. in Angliam, A.D.
1066, ad nostra usque tempora habita aut tractata ex
autographis, infra secretiores archivorum regiorum
thesaurarias, asservatis, aliisque summæ vetustatis
instrumentis, ad historiam anglicanam spectantibus,
fideliter exscripta
, 1816-1830, 1869
, xv, 505;
-
W. R. Williams
,
The History of the Parliamentary
Representation of Wales
, 1895
, 65;
-
Trafodion Cymdeithas Hanes Sir
Gaernarfon
,
1946
, 14.
Awdur:
Athro Emeritus Arthur Herbert Dodd, M.A., (1891-1975), Bangor