Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



GRIFFITHS , ANN ( Bywg. , 283) bed. 21 Ebrill 1776 , priodwyd 10 Hyd. 1804 — enw ei gwr oedd Thomas (nid ‘John’) Griffiths ( 1779 - 1808 ), a bu f. 8 Ebrill 1808 . Bu ei thad f. c. Chwef. 1804 , a'i mam yn 1794 ; cawsant bump o blant (1) Jane , 1767 , (2) John , 1770 , (3) Elizabeth , 1772 , (4) Ann , a (5) Edward ( 1779 ). Ymdriniwyd yn helaeth â'r plant (a'u disgynyddion) gan David Thomas , yn Eurgrawn 1959-60 ; priodwyd Jane yn 1794 â Thomas Jones , siop Ty Cornel , Llanfyllin , a merch i'w hwyr John Jones oedd Margaret Jane Jones , priod y gweinidog a'r llenor Owen Jones ( 1853 - 1899 , Bywg. , 471) ; bu hi f. yn Ion. 1909 . Cyfeirir bellach at y llyfr, Cofio Ann Griffiths ( Caernarfon 1955 ) — a defnyddier yr ail argr. ( 1961 ) o lyfr Thickens Emynau a'u Hawduriaid (gol. Gomer M. Roberts , t. 12-16).

Atodiadau a chywiriadau:

GRIFFITHS , ANN ( 1776 - 1805 ), emynyddes ; g. fis Ebrill 1776 yn Dolwar Fach , Llanfihangel yng Ngwynfa , sir Drefaldwyn , merch John a Jane Thomas . Yr oedd ei rhieni yn mynychu eglwys y plwyf. Yr oedd yn hoff o fywyd ysgafn yn ei hieuenctid, ond dwysaodd ar ôl gwrando ar Benjamin Jones [q.v.] , Pwllheli , yn pregethu . Ymunodd â'r seiat Fethodistaidd ym Mhont Robert yn 1797 ; daeth i gyswllt â John Hughes [q.v.] , athro a phregethwr , a bu'n gohebu llawer ag ef. Âi i sasiynau'r Bala , a buan y gwelwyd ei bod yn ferch allan o'r cyffredin. Priododd John Griffiths , ffermwr o Feifod , yn 1804 , a bu f. yn Awst 1805 , ar ôl geni ei chyntaf-anedig; claddwyd hi yn Llanfihangel , 12 Awst . Adroddai ei hemynau wrth Ruth Evans , ei morwyn ; trysorodd hithau hwynt yn ei chof, ac ar ôl ei phriodas â John Hughes fe'u hysgrifennwyd hwynt ganddo mewn dau ysgriflyfr. Ef, mae'n ddiau, a'u rhoes yn llaw Thomas Charles o'r Bala , a chredir mai Robert Jones , Rhos-lan , a'u paratôdd i'w cyhoeddi. Cyhoeddwyd hwynt yn arg. 1805 o Grawn-Syppiau Canaan , ac wedyn ( 1806 ) yn Casgliad o Hymnau gan mwyaf heb erioed eu hargraffu o'r blaen ( Bala , R. Saunderson ). Ymddangosodd arg. arall, dan yr un teitl, o wasg J. Evans , Caerfyrddin , yn 1807 ; ac un arall eto yn 1808 dan y teitl, Hymnau o Fawl i Dduw a'r Oen ( Bala , Saunderson ). Cyhoeddwyd cynnwys ysgriflyfrau J. Hughes gan ( Syr ) Owen M. Edwards yn Gwaith Ann Griffiths (' Cyfres y Fil '), 1905 ; yn hwnnw bellach y ceir testun gwreiddiol ei hemynau. Nodweddir hwynt gan gyfeiriadau ysgrythurol cymhleth, profiad ysbrydol dwfn, cyfriniol; a ffigurau ymadrodd beiddgar. Ysgrifennwyd hwynt, gan mwyaf, ar y mesur wyth saith clonciog — mesur a rydd gryn drafferth i gerddorion yn ogystal ag i olygwyr casgliadau emynau.

Llyfryddiaeth:

  • Y Traethodydd , 1846 , 420-33;
  • Cymru , Ionawr 1906 ;
  • Y Llenor , iii, 110-29, 172-87;
  • Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd , vi, 2-7;
  • Morris Davies , Cofiant Ann Griffiths gynt o Dolwar Fechan, Llanfihangel yn Ngwynfa, Swydd Drefaldwyn Ynghyd a'i llythyrau a'i hymnau , 1865 ;
  • E. Griffiths , Ann Griffiths ei llythyrau a'i hemynau, ynghyd a byr-nodiad ar ei bywyd a'i gweithiau , 1903 ;
  • Elfed , Ann Griffiths ei Hanes a'i Hemynau ;
  • J. Thickens , Emynau a’u Hawduriaid . [1945.] , 14-8;
  • Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru 682, 694, 4756;
  • Llawysgrifau Eglwys Bresbyteraidd Cymru, yng ngofal Llyfrgell Genedlaethol Cymru , N.L.W. 5863-4.

Awdur:

Y Parch. Gomer Morgan Roberts, M.A., (1904-93), Pont-rhyd-y-fen / Llandudoch / Llandybïe