[Ymddengys yr enw ‘ Gambold ’ (sydd i'w gael mewn rhannau eraill o Brydain hefyd) yn gynnar iawn ym mhlwy Llandudoch ; noder bod rhan o'r plwy, sy'n ddaearyddol yn Sir Benfro , yn perthyn i fwrdeistref Aberteifi ar draws yr afon. Yr oedd rhyw WILLIAM GAMBOLD yn byw yn Aberteifi yn 1653 , ac yn aelod o'r ‘ Court Leet ’. Bu ganddo, fe ymddengys, fab o'r enw HECTOR . Credir (er nad yw'r mater yn glir) mai meibion i hwnnw oedd TIMOTHY a WILLIAM (y gramadegydd , isod), a mab i TIMOTHY oedd DAVID (bu f. 1761 ). Ymdrinir yn gyntaf â disgynyddion David . Daeth ei ferch ef, ANNE , yn briod â Benjamin Millingchamp a fu f. 1784 ( Bywg. , 596) , swyddog gyda'r doll yn y porthladd ; a chysylltir y gainc hon o'r Gamboldiaid bellach â'r swyddogaeth honno. Bu WILLIAM , mab David , rhydd-ddeiliad yn Aberteifi ( West Wales Records , III, 77, dan 1760 ) yn ‘ purser ’ yn y Llynges — nodir mai yn Biwmaris yr oedd ei breswylfod a dyna sut y gwelir ei enw yn Llythyrau Morysiaid Môn , ac yr adroddir ei gampau yn yr ysgarmesoedd ym Môn a mannau eraill, yn erbyn y smyglwyr. Nid oes fawr amheuaeth bellach nad hwn a roes lety i Lewis Morris yn 1758 , pan ryddhawyd hwnnw o garchar Aberteifi . Bu wedyn yn gapten y llong Pelham . Y mae sôn hefyd (yn Llythyrau'r Morysiaid — gw. mynegai Hugh Owen iddynt — ac yn helaeth yn recordiau'r Customs yng Nghaergybi a Llundain ) am ryw GEORGE , efallai brawd hyn i William , yntau'n gapten .]
Mor gynnar â 1707 , cynlluniai Gambold eiriadur Cymraeg , a daeth hwnnw'n brif waith ei fywyd pan analluogwyd ef gan ddamwain rhag cyflawni ei ddyletswyddau plwyfol. Gorffenwyd hwn yn 1722 , ond methodd Gambold gasglu digon o arian i'w gyhoeddi. Yn llythyrau'r Morysiaid (I, 114; II, 150, 233) sonnir fod yr Esgob Gambold yn ceisio gwerthu'r llsgr. i'r geiriadurwr Thomas Richards ( c. 1710 - 1790 ; Bywg. , 802-3) o Langrallo — yn ôl eu harfer, tuedda'r Morysiaid i ddibrisio'r gwaith. Tua 1770 , daeth y llsgr. i ddwylo geiriadurwr arall, John Walters ( 1721 - 1797 ; Bywg. , 950-1) — heddiw, y mae yn y Llyfrgell Genedlaethol . Cyhoeddodd William Gambold yn 1727 A Grammar of the Welsh Language ; ailargraffwyd hwn ar ôl ei farw ( Llyfryddiaeth y Cymry , 346-7). Bu f. 13 Medi 1728 .
Serch iddo fod yn genhadwr selog, eto ysgolhaig yn bennaf oedd John Gambold . Yr oedd yn Roegwr gwych, a chanddo wybodaeth ddofn o'r Tadau cynnar. ‘Llonydd’ ( quietist ) a chyfriniol oedd ei ddiwinyddiaeth. Nid oedd wedi gollwng ei afael ar ei Gymraeg . Yn 1760 , diwygiodd a dug trwy'r wasg Un Ymadrodd ar Bumtheg ynghylch Iesu Grist , cyfieithiad Evan Williams ( 1724 - 1758 ; Bywg. , 974-5) o waith Zinzendorf ; ac yn 1770 cyhoeddodd emyniadur Morafaidd Cymraeg, Llyfr Hymnau Cynulleidfaol y Brodyr — tri o'r emynau allan o waith yr Hen Ficer , a 34 o drosiadau Gambold ei hunan, o emynau Morafaidd Saesneg; anystwyth braidd yw'r rheini (gw. Cymm. xlv. 112).
[Y mae trefn enwau brodyr John Gambold , yn yr ysgrif wreiddiol, yn wallus: bellach gw. Cylchgrawn Cymd. Hanes y M.C. , Medi 1961 , am adroddiad cywirach wedi ei seilio ar ewyllys eu tad. Yr hynaf, wrth gwrs, oedd John g. 1711 ). Yna daw (2) WILLIAM (isod), g. 1712 neu 1713 , (3) HECTOR , g. yng Nghasmael 1714 ; ymfudodd i U.D.A. yn 1742 , a bu f. yn Pennsylvania yn 1788 , (4) GEORGE (isod); ac yr oedd merch, MARTHA .]
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor