FRANKLEN
,
Syr
THOMAS MANSEL
1840
-
1928
),
cyfreithiwr a gweinyddwr
;
g. yn
1840
yn
Abertawe
, yn fab i
Richard
Franklen
,
Y.H.
,
D.L.
, o
Clemenstone
, a'i wraig,
Isabella
(
Talbot
)
. O
Harrow
aeth i
Rydychen
(
Exeter
, ac yn ddiweddarach
Merton
), a graddiodd yn
1861
. Gwnaed ef yn
fargyfreithiwr
o
Lincoln's Inn
yn
1865
, a bu'n gwasanaethu yng
nghylch-daith De Cymru
. Yn
1878
gwnaed ef yn
glerc heddwch
ym
Morgannwg
, ac yn
1889
yn
glerc cyngor sir Forgannwg
. Bu f.
29 Medi 1928
, cyn ymddiswyddo. Priodasai
Florence
Allen
yn
1872
. Cawsai radd anrhydeddus
LL.D.
, gan
Brifysgol Cymru
yn
1921
, a'i urddo'n
farchog
yn yr un flwyddyn. Yr oedd yn aelod o
Gymdeithas Hynafiaethau Cymru
ac yn
ffotograffydd
brwdfrydig, fel y gweddai i berthynas i
W. H. Fox
Talbot
(gw.
TALBOT
(Teulu),
Margam
)
. Gwnaed defnydd helaeth o'i luniau o groesau Celtaidd cynnar gan
J. Romilly
Allen
, a chedwir casgliad o'i luniau o adeiladau hanesyddol yn
Amgueddfa Genedlaethol Cymru
.
Llyfryddiaeth:
-
Archaeologia Cambrensis
,
1928
.
-
Who was who?
.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D.,
F.S.A., (1881-1969), Bangor