Yr oedd yng Nghastellnewydd Emlyn yn y cyfnod hwnnw gylch o feirdd fel ‘ Emlynydd ,’ ‘ Myfyr Emlyn ,’ ‘ Rhys Dyfed ,’ ac eraill, a chychwynnodd W. Eilir Evans tan eu dylanwad farddoni yn ifanc a chystadlu yn eisteddfodau'r ardal . Enillodd y gadair yn eisteddfod Deheudir Cymru yn Aberteifi , 1878 , ar awdl ar ‘ Gwareiddiad ,’ ac argraffwyd hi yn 1884 . Cyfieithodd Essay on Criticism ( Pope ) yn Gymraeg yn Yr Haul , ac ‘ Elegy in a Country Churchyard ’ ( Gray ). Cyhoeddodd gerddi ac erthyglau yn Y Byd Cymreig (papur a argraffwyd yng Nghastellnewydd Emlyn ), Y Geninen , Y Traethodydd , Yr Haul , Y Dywysogaeth , Celt Llundain , Papur Pawb , The Aberystwyth Observer , a phapurau eraill. Yn 1910 cyhoeddodd gasgliad o'i erthyglau a'i gerddi, Rhyddiaith a Chân . Bu f. 7 Rhagfyr 1910 .
David Gwenallt Jones, M.A., (1899-1968), Aberystwyth