Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



EUDDOGWY , ( Bywg. , 202b). Yn lle Burig darllener Buddig . Saif yr ail ‘u’ yn Anauued am ‘f’.

Atodiadau a chywiriadau:

EUDDOGWY ( Oudoceus ) , sant , fl. yn niwedd y 6ed g. ; un o esgobion cynnar Llandaf . ‘Buchedd’ a geir yn ‘ Llyfr Llandaf ’ yw yr unig ffynhonnell am ei fywyd. Dywed honno mai mab oedd Euddogwy i Buddig , tywysog Llydewig , ac Anauued , chwaer Teilo Sant . Er cyflawni addewid, ymddiriedwyd Euddogwy i ofal ei ewythr, Teilo , a dychwelodd i Landaf gydag ef. Euddogwy ydoedd olynydd Teilo yn yr esgobaeth, a dywedir iddo dalu gwrogaeth i Gaergaint . Rhydd y gweddill o'r ‘Fuchedd’ ddisgrifiadau o daith Euddogwy i Rufain , o'r modd y symudodd greiriau o Dyddewi a Llandeilo Fawr i Landaf , ac o'r gwyrthiau a gyflawnwyd ganddo. Trwy gyfrwng un o'r gwyrthiau hyn, daeth i gyffyrddiad â Gildas Sant . Bu f. 2 Gorffennaf , a dethlid ei ŵyl ar y dydd hwnnw. Cyfansoddwyd ‘ Llyfr Llandaf ’ fel cyfanwaith yn y 12fed g. gyda'r bwriad o ychwanegu at safle a dylanwad esgobaeth Llandaf fel y'i had-drefnwyd hi gan y Normaniaid . Y mae'r ‘ Vita Beati Oudocei ’ a'r un siarter ar hugain sydd yn ei ddilyn yn ffurfio gyda'i gilydd ran hanfodol o'r cynllun cyffredinol. Nid yw'r ‘Fuchedd’ o unrhyw werth hanesyddol, ac y mae'n frith o wallau amseryddol a ffugiadau amlwg. Asiwyd traddodiadau am ddau neu dri cymeriad gwahanol ynghyd, a gwneir Eudoce , esgob ym Morgannwg yn y 9fed g. , yn Euddogwy Sant trwy ei gyplysu â'r person a roddodd ei enw i Landogo yn sir Fynwy , yr unig eglwys sydd yn arddel Euddogwy fel ei noddwr.

Llyfryddiaeth:

  • The Lives of the British Saints , iv, 28-36;
  • J. Gwenogvryn Evans a John Rhys , Liber Landavensis. The Text of the Book of Llan Dâv ) , 1893 130-60;
  • G. H. Doble , Saint Oudoceus extract from "The Journal of Theological Studies" July-Oct., 1942 (Vol.XLIII, No.171-2) and Jan.-Apr., 1943 (Vol.XLIV, No.173-4) , 1942-1943 ;
  • Duine , Memento des sources hagiographiques del'histoire de Bretagne , 1918 , 131;
  • Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru , iv, 123-57.

Awdur:

Hywel David Emanuel, M.A., (1921-70), Aberystwyth