Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



EDWART ap RAFF ( Bywg. , 1049a) Ceir ach un o'r enw yn Llsgr. Pen. 134 (142-3).

Atodiadau a chywiriadau:

EDWART ap RAFF ( fl. 1578-1606 ), un o feirdd sir Ddinbych a mab i Raff ap Robert [q.v.] . Mewn cywydd a ganodd yn 1602 ‘wedi iddo vynd yn hen, ac yn dangos i gerdded gynt’ cyfeiria at frwydr S. Quentin , 1557 , fel petai'n bresennol ynddi yn fachgen ieuanc. Yn N.L.W. MS. 5282 disgrifir ef fel ‘ prydydd dall 1587,’ ond ni ddywedir hynny yn unman arall. Canodd yn bennaf i uchelwyr Dyffryn Clwyd a cheir marwnadau ganddo i Siôn Tudur ( 1602 ) a Simwnt Fychan , ( 1606 ). Y mae casgliad o'i waith yn Llanst. MS. 36 .

Llyfryddiaeth:

  • Additional Manuscripts in the British Museum 14879, 14885, 14998, 24980;
  • Cardiff Manuscripts 11-3, 43, 47, 63-4, 83-4;
  • Jesus College Manuscripts 15-6, 18;
  • Llawysgrifau Llanstephan yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. 49, 124-5;
  • Llawysgrifau Mostyn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth 96, 131, 145, 147;
  • Llawysgrifau Peniarth yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth 72-3, 75, 93, 112, 115, 121, 173;
  • Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru 253, 356, 434-5, 552, 567, 644, 673, 722, 1238. 1553, 1559, 1578, 3487, 6496, 6499, 6967, 10248, 11087;
  • Llawysgrif Cwrtmawr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru 242;
  • Llawysgrifau Brogyntyn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. 3, 5-6;
  • Swansea Manuscript 1;
  • Llawysgrif Chirk Castle yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. 3.

Awdur:

Miss Rhiannon Francis Roberts, M.A., (1923-90), Aberystwyth