EDWARDES
,
DAVID EDWARD
(
Bywg.
, 169a)
bu f.
19 Gorffennaf 1898
(
West Wales Records
, II, 206).
Atodiadau a chywiriadau:
EDWARDES
,
DAVID EDWARD
(
1832
-
1898
),
cyfieithydd
;
g.
14 Hydref 1832
ym mhlwyf
Llanllawddog
,
sir Gaerfyrddin
, mab
Edward
a
Margaret
Edwardes
,
Rhydargaeau
. Yr oedd ei dad yn
Ymneilltuwr
, ac ef a
gadwai siop y pentref
. Addysgwyd
Edwardes
yn lleol, mae'n debyg, cyn iddo fyned i
Brifysgol Glasgow
, lle y gwnaeth enw iddo'i hun trwy gipio'r
wobr flaenaf mewn athroniaeth
(moeseg), a'r
fedal arian
a
gwobr mewn athroniaeth (seicoleg)
. Cymerodd radd
M.A.
yn
1865
. Ei gyfraniad mwyaf sylweddol i ysgolheictod yw ei gyfieithiad o
Alcestis
(
Euripides
) i
Gymraeg
. Am hyn rhannodd ef a
David
Rowlands
(’
Dewi Môn
’)
wobr o £100 yn
eisteddfod Aberdâr
,
1885
. Cyhoeddwyd y ddau gyfieithiad mewn un gyfrol gan
Gymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol
yn
1887
. Bu
Edwardes
yn
gurad
yn
Nhalacharn
1866-9
,
Llandeloy
1869-72
,
Dinas
(
Penfro
)
1872-4
,
Llanllwchaiarn
1874-5
,
S. Paul
(
Llanelli
)
1875-7
,
Begelly
1880-4
, a
Rudbaxton
1886-8
. Ar
22 Hydref 1888
sefydlwyd ef yn
rheithor
Hodgeston
,
sir Benfro
, ac yno y treuliodd weddill ei ddyddiau. Bu f. rywbryd yn
Hydref 1898
.
Llyfryddiaeth:
-
Crockford's Clerical Directory
, 1858
ff
,
1898
, 414;
- llawysgrifau a dogfennau'r Eglwys yng Nghymru yn Ll.G.C.;
-
Yr Alcestis chwareugerdd Roegaidd
,
Llundain, 1887
(
Euripides
),
1887
.
Awdur:
Dr David Jenkins, C.B.E., M.A., D.Litt., (1912-2002), Penrhyn-coch,
Aberystwyth