Wedi derbyn ei radd yn 1795 aeth yn gurad i Feifod , ac wedi hynny i Ysbyty Ifan . Yno priododd weddw Rice Price , Rhosbrynbwa , a bu iddynt bedwar plentyn. Cafodd fywoliaeth Llanwyddelan yn 1803 , a pherigloriaeth Manafon yn 1807 ; ym Manafon y gwnaeth gyfeillion â'r Parch. John Jenkins (’ Ifor Ceri ’) a Fychaniaid Penmaen Dyfi . Yn 1837 derbyniodd fywoliaeth Llanrhaiadr-ym-Mochnant , ac yno y treuliodd weddill ei oes.
Bu cysylltiad agos rhyngddo a chymdeithasau llengar Llundain , yn enwedig y Gwyneddigion , a bu'n gyfrifol, gyda chymorth David Rowland , Llanddewibrefi , am gychwyn y cymdeithasau taleithiol . Yn ystod ei oes faith cyhoeddwyd y gweithiau canlynol o'i waith: Diwygiad neu Ddinystr … , cyfieithiad o Reform or Ruin ( T. Bowdler ), 1798 , Eglur Olygiad o'r Grefydd Gristionogol ac o Hanesyddiaeth (Histori) cyn belled ag y perthyn i ddechreuad Cristionogaeth, ac i'w chynyddiad hyd yr amser presenol , cyfieithiad o waith Thomas Gisborne , 1801 ; General view of the Agriculture and Domestic Economy of North Wales … Drawn up for the consideration of the Board of Agriculture and Internal Improvement ( London , 1813 ); General view of the Agriculture and Domestic Economy of South Wales … Drawn up for the consideration of the Board of Agriculture and Internal Improvement ( London , 1815 ). Golygodd waith Huw Morus , 1823 , a Lewis Glyn Cothi (gyda John Jones , ’ Tegid ’) . Cyhoeddodd hefyd, 1827 , adargraffiad o drosiad mydryddol William Middleton (‘ Gwilym Canoldref ’) [q.v.] o'r Salmau .
Yr oedd ’ Gwallter Mechain ’ yn ŵr o ddiddordeb eang anghyffredin. Astudiodd bynciau meddygol, seryddiaeth, llenyddiaeth hen a diweddar , ynghyd a llenyddiaeth gyfoes y Saeson . Chwiliodd achau teuluoedd pendefigaidd fel yr Herbertiaid , a rhoes wasanaeth gwerthfawr i'r eisteddfod a'r cymdeithasau gan eu beirniadu ar adegau. Yn sicr, yr oedd ‘ Gwallter Mechain ’ yn ei oes yn un o gymwynaswyr mawr Cymru . Er nad oes ar ei farddoniaeth fawr gamp, eto enillodd iddo'i hun le amlwg fel hynafiaethydd , beirniad , a chasglwr llyfrau . Y mae dros 300 o'i lawysgrifau yn Ll.G.C.
John Thomas Owen, M.A., Aberaeron