Atodiadau a chywiriadau:
DAVIES
,
OWEN
(
1840
-
1929
),
gweinidog gyda'r Bedyddwyr
;
g. yn amaethdy
Cae Plan
ger
Pwllheli
,
8 Hydref 1840
. Yr oedd ei dad,
Owen
Davies
, yn gefnder i
David
Owen
(‘
Dewi Wyn o Eifion
’) [q.v.]
. Addysgwyd ef yn ysgolion
Llanystumdwy
ac
Yokehouse
,
Pwllheli
; prentisiwyd ef yn
ddilledydd
ym
Mhwllheli
, ac aeth i siop yn
Llanelwy
yn 18 oed. Yn
Llanelwy
y dechreuodd
bregethu
. Yn
1862
aeth i
Goleg y Bedyddwyr
,
Llangollen
, yn un o'r chwe efrydydd cyntaf. Bu'n bugeilo eglwysi
Treffynnon
(
1865
),
Llangollen
(
1867
), a
Chaernarfon
(
1876
). Yng
Nghaernarfon
dilynodd
Robert
Ellis
(‘
Cynddelw
’)
. Ymneilltuodd o waith bugeilio yn
1905
. Bu'n
ysgrifennydd
Coleg y Bedyddwyr
,
Bangor
,
1892-5
, ac yn
ddarlithydd ar fugeilio a phregethu
o
1895 hyd 1915
. Ef oedd
ysgrifennydd
cyntaf
Undeb Bedyddwyr Cymru
; bu'n
llywydd yr Undeb
yn
1888
. Bu'n
golygu
Yr Athraw a'r Greal
(
1871-1918
). Priododd,
Mai 1872
,
Sarah Jane
, merch
Owen
a
Catherine
Ellis
,
Bryn y Pin
, ger
Conwy
, a bu iddynt fab a thair merch. Bu f.
30 Mai 1929
a chladdwyd ef yn y
Fynwent Newydd
,
Caernarfon
; bu
Mrs.
Davies
f.
22 Tachwedd 1939
. Yr oedd
O.
Davies
yn un o
bregethwyr
blaenaf ei ddydd ac yn
arweinydd doeth
a diogel yn ei enwad. Ymhlith ei lyfrau y mae
Cofiant y Parch. J.Pritchard, D.D.
,
1880
;
Bywyd a Gwaith Christmas Evans
,
1898
;
Cofiant Robert Jones, Llanllyfni
,
1903
;
Bedyddwyr Cymru: Eu Hanes a'u Golygiadau
,
1905
.
Llyfryddiaeth:
-
Y Greal sef Cylchgrawn Misol at wasanaeth y
Bedyddwyr
,
Hydref 1908
;
-
Y Brython
,
13 Mehefin 1929
;
-
Y Genedl Gymreig
,
10 Mehefin 1929
;
- adnabyddiaeth bersonol;
- gwybodaeth gan ei ferched.
Awdur:
Edward Morgan Humphreys, O.B.E., M.A., (1882-1955), Caernarfon